Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni yn y Siambr hon i graffu ar y dystiolaeth a fydd yn sail i weithredu'r 20mya? Hoffwn i ddweud ar y dechrau fy mod i'n cefnogi cyfyngiadau 20mya o amgylch ysgolion a mannau eraill sy’n agored i ddamweiniau. Rwyf i, wrth gwrs, yn cydnabod nad oes neb ohonom ni'n dymuno gweld unrhyw un yn cael ei ladd nac yn wir ei anafu ar ffyrdd Cymru, a phe byddai’r dystiolaeth yn ddiffiniol, byddwn i o blaid y rheolau hyn. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth ymhell o fod wedi ei phrofi. Yn wir, mae llawer o dystiolaeth yn awgrymu na fydd gosod y terfyn cyflymder hwn yn arwain at lai o ddamweiniau, boed yn angheuol neu fel arall, na lleihad mewn allyriadau niweidiol—y ddau reswm dros roi’r orfodaeth hon ar waith. Er enghraifft, yng Nghaerfaddon a gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, lle maen nhw wedi gwario £804,000 ar roi terfynau cyflymder 20mya ar waith, nodwyd bod nifer y marwolaethau a'r anafiadau wedi cynyddu mewn gwirionedd mewn saith o'r 13 parth lle cafodd ei roi ar waith.
Mae'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod y nifer mwyaf o farwolaethau wedi digwydd ar ffyrdd â therfynau 30mya, ond nid oedd yn sôn bod cyflymder cyfartalog y ceir yn y damweiniau hyn, bron bob tro, yn llawer mwy na 30mya, sy'n golygu, wrth gwrs, bod y gyrwyr yn anwybyddu terfyn o 30mya, a byddai hyn yn awgrymu y bydden nhw hefyd yn anwybyddu terfyn o 20mya. Ni fydd y terfynau is hyn yn gwneud dim i atal y rhai hynny sy'n gyrru ymhell dros y terfynau cyflymder—sef yr hyn sydd wedi achosi llawer o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog ato.
Mae hyd yn oed sefydliad moduro mor fawreddog â’r Automobile Association yn dweud bod cynghorau yn gwastraffu arian gan nad yw terfynau 20mya yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Byddwn i'n awgrymu bod gan sefydliad o'r fath lawer mwy o wybodaeth am ffyrdd a defnydd o'r ffyrdd na'r hyn y gellid ei chasglu mewn ychydig fisoedd o ymchwil, ni waeth pwy oedd yn cynnal yr ymchwil honno.
Nid oes dim tystiolaeth ychwaith i brofi y bydd terfynau 20mya yn newid arferion gyrru. A dweud y gwir, mae heddluoedd wedi methu â gorfodi'r terfynau, gan gredu mai gwastraff adnoddau fyddai hynny. Maen nhw'n mynd yn eu blaen i ddweud bod gorfodaeth yn ymatebol ac na ddylid ei defnyddio fel mesur ataliol i gyflawni cyflymderau cerbydau. Mae'n rhaid i atal ddibynnu ar gefnogaeth mwyafrif y cyhoedd i gydymffurfio ac mae'n rhaid i orfodaeth gael ei llywio gan gymesuredd. Mae'r mudiad 20’s Plenty for Us wedi beirniadu adroddiadau sydd wedi methu â rhoi tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
A gaf i droi yn awr at fudd tybiedig y gostyngiad mewn allyriadau o ganlyniad i ostwng cyflymder o 30 i 20mya? Mae awdurdod sylweddol Adran Drafnidiaeth y DU wedi dweud bod eu hymchwil yn dangos bod allyriadau ar 20mya yn fwy nag ar 30mya. Yn wir, mae allyriadau yn parhau i ostwng wrth i gyflymder gynyddu hyd at oddeutu 50 i 60mya, cyn dechrau codi eto. Felly, o ystyried y ffaith y bydd cerbydau yn mynd yn arafach drwy ardal ac felly yn y lleoliad hwnnw yn hirach, byddwn yn cael effaith negyddol ddwbl ar allyriadau, gan achosi mwy o lygredd nag a oedd yn digwydd gyda therfyn cyflymder o 30mya mewn gwirionedd.
A gaf i droi yn awr at roi’r mesurau hyn ar waith? Roedd yr adroddiad yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith y byddai darn o ddeddfwriaeth gyffredinol, a fyddai'n cwmpasu Cymru gyfan, yn ei gwneud yn haws, ac felly'n rhatach i gynghorau ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, y cynghorau unigol fydd yn penderfynu ar ba ardaloedd 30mya a gaiff eu heithrio o'r 20mya. Mewn geiriau eraill, er gwaethaf y ffaith bod yr adroddiad yn dweud nad yw'n gwneud braidd dim gwahaniaeth i amseroedd mynd o un rhan o ardal drefol i ran arall, fe'i derbynnir, am resymau nad ydyn nhw wedi eu diffinio eto, fod rhai ffyrdd mewn ardaloedd trefol na fyddan nhw'n ddarostyngedig i'r rheol 20mya.
Y broblem yma yw'r ffaith y bydd unrhyw gyngor penodol, yn ddigon naturiol, yn osgoi risg o ran a ddylai ffordd aros ar 30mya ai peidio. Byddan nhw'n ymwybodol iawn, pe byddai rhywun yn cael ei ladd ar ffordd benodol sy'n cadw ei therfyn cyflymder yn 30mya neu efallai hyd yn oed uwch, y byddai'n debygol iawn y byddan nhw'n cael eu beirniadu neu hyd yn oed eu herlyn am beidio â defnyddio’r 20mya. Felly, rydym ni'n debygol o weld sefyllfa lle bydd pob ffordd drefol ledled Cymru yn gweld cyfyngiad o 20mya.
Dyma, yn anffodus, benbleth arall i'n cynghorau. Beth yw ystyr ffordd drefol? Er enghraifft, yn Nhorfaen, a yw'r ffordd o Flaenafon i Bont-y-pŵl yn ffordd drefol? Wrth gwrs, mae miloedd lawer o ffyrdd o'r fath ledled Cymru. Pan fyddwn yn gweld y terfynau cyflymder hyn yn cael eu mabwysiadu yn gyffredinol, yn wir, bydd dros y wlad i gyd, a bydd bron pob ffordd yng Nghymru yn defnyddio’r terfyn cyflymder hurt o isel hwn.
Yn olaf, rwyf am droi at yr agweddau ymarferol er mwyn i'r gyrrwr gadw at y terfyn cyflymder hwn. Yn gyntaf, ni wnaiff unrhyw ddyfais rheoli cyflymder ar geir, bron, weithio yn is na 30mya. Felly, nid yw defnyddio rheolydd cyflymder yn opsiwn, hyd yn oed os oes un yn y car ac, wrth gwrs, nid oes gan y rhan fwyaf o geir y ddyfais hon beth bynnag. Felly, y gyrrwr sy'n gorfod rheoli ei gyflymder i 20mya.
Rwy’n aml yn defnyddio dwy ardal sydd wedi cyflwyno’r terfyn cyflymder hwn—Brynbuga a Chaerllion—ac rwy’n gweld fy mod i'n monitro'r dangosydd cyflymder yn barhaus, ac o gofio bod y ceir eraill sydd o fy mlaen i yn aml yn mynd filltir neu ddwy dros y terfyn, fel y mae'r dangosyddion rheoli cyflymder sy'n fflachio yn ei ddangos, mae'n ymddangos bod yr anhawster hwn yn gyffredin. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at yr effaith andwyol o beidio â monitro'r ffordd fel y byddai rhywun fel arfer yn ei wneud, ac felly'n arwain at effaith andwyol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Llywydd, cafodd y terfyn 30mya ei gyflwyno pan oedd gan geir fymperi dur a breciau cebl. Mae ceir heddiw wedi eu cynllunio i achosi llai o anaf ac mae eu systemau brecio yn llawer gwell na'r rhai, hyd yn oed ychydig ddegawdau yn ôl. Dim ond un ffordd sydd o atal damweiniau ffyrdd, sef i bob un ohonom ni ddychwelyd i gerdded. Gellid defnyddio’r gostyngiad cyson hwn mewn cyflymder ar ein traffyrdd. Byddai terfyn cyflymder o 30mya ar y rhain yn achub llawer mwy o fywydau—