Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn fodlon derbyn gwelliant Plaid Cymru—dechrau da iawn i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'n gwelliant ni yn ymwneud efo gorfodaeth ac yn galw ar y Llywodraeth i osod allan ei chynigion o ran gorfodaeth ac o ran adnoddau i'r asiantau gorfodaeth fel rhan o'r ymgynghoriad fydd yn digwydd.
Mi ydym ni o blaid cyflwyno cyfyngiadau 20 mya ac o blaid cynyddu'r nifer o barthau 20 mya, yn enwedig o gwmpas ysgolion, ond hefyd mewn stadau tai ac mewn rhannau eraill o gymunedau. Ond mae'r cwestiwn o orfodaeth yn un pwysig ac yn un sydd angen ei gyfarch a'i ateb. Ar hyn o bryd, dydy'r cyfyngiadau cyflymder 20 mya ddim yn cael eu gweithredu mewn ffordd broactif, a dweud y gwir. Mae camerâu GanBwyll/GoSafe yn cael eu targedu i leoliadau lle mae nifer uchel o bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd, a hynny'n ddealladwy, mae'n debyg, ond mi ddylai Llywodraeth Cymru rŵan, er mwyn gwneud y cyfyngiadau yma yn effeithiol, weithio efo'r comisiynwyr heddlu a throsedd, a gyda'r cynllun GanBwyll sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, er mwyn cytuno sut i addasu'r gyfundrefn gorfodaeth er mwyn i'r cyfyngiadau 20 mya fod o werth gwirioneddol. Dwi'n falch o ddeall fod Arfon Jones, comisiynydd yr heddlu Plaid Cymru dros y gogledd, wedi cychwyn creu arolwg yn yr ardal yma o sut yn union y byddai'r cyfyngiadau yma yn gweithredu.
O drafod efo cydweithwyr mewn llywodraeth leol, maen nhw hefyd yn teimlo fod yr elfen gorfodaeth yn hanfodol i lwyddiant y fenter yma, ac os nad ydy'r lefel o orfodaeth gan yr heddlu am fod yn ddigonol, yna mae yna risg fod disgwyliadau'r cyhoedd o gael pawb i gydymffurfio efo'r cyfyngiadau cyflymder newydd yna yn disgyn i'r awdurdodau lleol, a bod hynny yn ei dro yn arwain at alwadau am fesuriadau tawelu traffig ac, wrth gwrs, mae yna elfen o gost i hynny. Felly, mae angen i'r Llywodraeth adnabod hynny o fewn costau'r cynllun.
Fel arall, ac o weld bod y Llywodraeth yn derbyn yr hyn rydym ni'n dadlau drosto fo, rydym ni'n croesawu'r cynllun ac yn cefnogi'r ymdrechion i'w wneud o yn llwyddiannus. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir yn y Felinheli, mi wnes i lwyddo i gael parth 20 mya o gwmpas yr ysgol leol, a rhaid dweud fe welwyd newid yn arferion y gyrwyr yn syth a llawer mwy o bwyll yn cael ei arfer, yn enwedig efallai am fod yr arwyddion 20 mya yn cynnwys lluniau lliwgar wedi cael eu creu gan blant lleol a oedd yn cynnwys crwban a'r gair 'araf'.