13. Dadl: Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20 mya yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:27, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Oes, mae cefnogaeth ar y meinciau hyn i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya. Rwy'n gwybod, yn Aberconwy, bod hyn wedi bod yn broblem fawr ar rai o'n ffyrdd gwledig, a bod ein hawdurdod lleol wedi ei chael yn anodd mynd o gyflymder uwch i 20mya. Ac, wrth gwrs, mae ein cyd-Aelod, David Melding AS, wedi gweithio mor galed ar y mater hwn.

Mae'n synnwyr cyffredin ac mae'n gam diogel. Mae unigolyn saith gwaith yn llai tebygol o farw os yw'n cael ei daro ar 20mya na 30mya, neu 10 gwaith os yw dros 60 oed. Yn ôl astudiaeth i werthuso effaith cyflwyno terfynau cyflymder 20mya ledled dinas Bryste, bu gostyngiad yn nifer yr anafiadau angheuol, difrifol a bach oherwydd gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, a oedd yn cyfateb i amcangyfrif o arbedion cost o dros £15 miliwn y flwyddyn, ac roedd cerdded a beicio ledled y ddinas wedi cynyddu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi honni o'r blaen y byddai gostwng y terfyn o 30mya yn arwain at fanteision sylweddol i iechyd y cyhoedd.

A dweud y gwir, mae terfyn 20mya yn cael ei hybu a’i annog mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a thramor. Bydd Faversham yng Nghaint y dref gyntaf yn y DU i ddefnyddio terfyn cyflymder o 20mya drwy’r dref i gyd. Bydd yr holl strydoedd preswyl yn Southend, Essex â therfyn 20mya. Mae’r 64 o strydoedd yng nghanol dinas Perth wedi bod â therfyn 20mya am y 18 mis diwethaf. Mae'r Road Safety Authority o blaid cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw yn drawsbleidiol i gyfyngu cyflymder i 30mya ar bron pob ffordd yn ninas a maestrefi Dulyn. Mae Milan yn gosod yr un terfyn ar gyfer 22 milltir o ffyrdd. Fe wnaeth Washington DC leihau cyflymderau ar ffyrdd lleol i 20mya ar 1 Mehefin, ac mae Wellington yn Seland Newydd wedi cytuno ar 30kmya ar gyfer strydoedd canol y ddinas. Fel y dywedodd sylfaenydd a chyfarwyddwr yr ymgyrch 20’s Plenty for Us:

Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.

Mae camau yn cael eu cymryd yn fyd-eang i roi terfyn 20mya ar waith, felly rwy'n awyddus i ni gyflymu'r broses yn y fan yma. Ni all fod yn iawn, a therfynau 20mya wedi bod yn bosibl ers blynyddoedd lawer, mai dim ond tua 1 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd trefol yng Nghymru sy'n eu defnyddio ar hyn o bryd. Yn ôl adroddiad y tasglu a gadeiriwyd gan Phil Jones, gallwch chi newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20mya, ac mae nifer o argymhellion ar y camau sydd eu hangen i gyflawni hyn, fel gosod dyddiad targed o Ebrill 2023 i ddod â’r newid yn y gyfraith i rym, gwneud is-ddeddfwriaeth o dan adrannau 81(2) a 65(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, trwy ddarparu adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i ymgynghori ar newidiadau eang mewn terfynau cyflymder lleol, eu cynllunio a’u rhoi ar waith, ac i ddarparu data monitro. Ac mae hynny'n allweddol—heb yr adnoddau, mae'n ddiwerth i ni hyd yn oed sôn amdano. Mae angen i ni gydweithio â'r heddlu a GoSafe i gytuno sut y dylid addasu'r drefn orfodi.

Rwy’n croesawu argymhellion yr adroddiad hwn ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y galwadau i ddiwygio'r canllawiau ar bennu terfynau cyflymder lleol. Mewn adroddiad y gwnes i ei baratoi y llynedd, ar ôl cyfarfod cyhoeddus prysur iawn, iawn ynghylch priffyrdd yng ngorllewin dyffryn Conwy, datgelwyd bod awdurdodau lleol yn rhoi pwyslais ar nifer y damweiniau, yn hytrach na risg a damweiniau a fu bron â digwydd. Mae hyn yn wallgofrwydd llwyr, ac mae wedi golygu bod gennym ni lonydd un trac sy’n cael eu defnyddio yn aml mewn cymunedau gwledig fel Tal-y-cafn, Rowen a Threfriw, a therfynau o 60mya arnyn nhw o hyd.

Yn bersonol, rwyf i'n credu y dylai'r canllawiau a'r angen i ystyried 12 ffactor penodol, nid dim ond y niferoedd a'r mathau o wrthdrawiadau, fod wedi eu hymgorffori yn y gyfraith fel bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ystyried pob ffactor yn deg, fel y gall Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y problemau difrifol â’r canllawiau ar osod terfynau cyflymder lleol. Mae angen cynnydd cadarnhaol arnom yn hyn o beth. Felly, rwyf i’n croesawu'r adroddiad. Er y byddai terfyn 20mya yn helpu ardaloedd trefol yn bennaf, rwy’n glir o fy nghyfathrebu ynghylch y mater â'r Prif Weinidog y bydd cynnydd yn y maes hwn yn ein tywys ni gam yn agosach at helpu i roi sylw i derfynau cyflymder uchel mewn ardaloedd gwledig hefyd. Ac, fel y gwelwch, rwyf i wedi gwneud cryn dipyn o waith cartref ar hyn, oherwydd ei fod yn broblem enfawr a hoffwn i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno hyn. Diolch.