Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Rwyf i wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer o blaid defnyddio mwy o barthau 20mya yng Nghymru. Edrychais yn gyntaf ar hyn yn 2011, ac ar yr adeg honno yr oedd 237 o ddamweiniau difrifol yn cynnwys cerddwyr yng Nghymru, ac yn anffodus roedd hynny'n cynnwys 82 o blant yn colli eu bywydau neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol iawn, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw’r ystadegau hynny mewn cof wrth siarad am hyn. Ar y pryd, fe wnes i ganolbwyntio fy adroddiad ar Gyngor Ceredigion i weld a all gyflwyno mwy o barthau 20mya mewn ardaloedd adeiledig i amddiffyn eu plant. Bryd hynny, roedd chwe ysgol yng Ngheredigion mewn parth terfyn 20mya, ond roedd 40 â therfyn 30mya a chwe ysgol â therfyn 40mya, ac roedd pump a oedd â'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn union y tu allan i'w drws. Felly, rwy’n credu bod angen gwirioneddol a phwyslais gwirioneddol, ac rwy’n cytuno â John Griffiths, bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun o ran diogelwch ar y ffyrdd, ond rwyf i yn cydnabod yr holl fanteision eraill y mae pawb wedi eu cynnwys yn hynny.
Felly, mae'r rhifau'n siarad drostyn nhw eu hunain. Rhwng 2017 a 2019, cafodd 127 o bobl eu lladd mewn damweiniau ceir, ond cafodd 1,759 o bobl eu hanafu a chafodd 453 eu hanafu'n ddifrifol. Mae hynny'n nifer sylweddol uchel.
Felly y cwestiwn sylfaenol yw a yw cyflymder yn gwneud gwahaniaeth? Wel, ydy mae, oherwydd os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 20mya, bydd gennych chi 95 y cant o siawns o oroesi. Os yw'r car yn teithio 30mya, bydd gennych chi 80 y cant. Dim ond 50 y cant yw’r siawns y byddwch chi'n goroesi os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 35mya, ac os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 40mya, mae gennych siawns 10 y cant o oroesi. Felly, rwy'n credu ei bod yn glir iawn o'r ystadegau hynny bod eich siawns o oroesi ardrawiad o gael eich taro gan gar yn cynyddu'n fawr wrth i chi leihau cyflymder y car hwnnw, ac nid oes yn rhaid i chi ei leihau yn sylweddol, fel y dangosodd hynny.
Rhan o'r rheswm, wrth gwrs, yw po gyflymaf y mae'r cerbyd yn teithio, yr hiraf y bydd y pellter y bydd ei angen arno i stopio. Felly, fe wnaf i roi enghraifft arall: ar ffyrdd sy'n gwbl sych ac o dan amodau perffaith, bydd angen pellter stopio o 23 metr neu chwe hyd car ar gar neu gerbyd sy'n teithio ar 30mya. Ar 20mya, bydd hynny'n gostwng i hanner. Felly, mae cyflymder, unwaith eto, yn ffactor sy'n rhoi cyfle i'r gyrrwr a hefyd i’r cerddwr beidio â chael gwrthdrawiad difrifol sy'n arwain at anaf neu farwolaeth.
Ond rwy'n cytuno na wnaiff terfynau cyflymder yn unig ddatrys y problemau hyn. Bydd angen mesurau gorfodi digonol, a bydd yn rhaid i ni ddod i gytundeb ynghylch pwy a sut y caiff y mesurau gorfodi hynny eu rhoi ar waith.
Ond dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i amrywio eu terfynau cyflymder. Mae'n feichus, fel sydd wedi ei amlinellu yma, ond rydym ni wedi gweld awdurdodau yn symud ymlaen, fel Caerdydd ac Abertawe, er enghraifft, pan fu'r awydd gwleidyddol yno. Rydym ni hefyd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol i wella diogelwch oddi ar y ffyrdd.
Ac eto, y llynedd, ar gyfer yr ysgol newydd yn Hwlffordd, Ysgol Caer Elen, ymunais â rhieni i ymgyrchu i leihau'r terfyn cyflymder o 30mya i derfyn cyflymder o 20mya. Felly, fy nghais i yma i chi, Gweinidog, yw, pan fyddwn yn adeiladu ysgolion newydd, bod parth cyflymder 20mya y tu allan i'r ysgol honno wedi ei gynnwys yn y dyluniad. Mae'n anhygoel i mi fod unrhyw awdurdod lleol sydd eisoes wedi rhoi terfynau cyflymder o 20mya ar waith y tu allan i rai ysgolion wedyn yn mynd ati i adeiladu ysgol newydd â therfyn cyflymder o 30mya y tu allan iddi—ac mae damwain wedi bod yn barod, a diolch byth nad oedd neb wedi brifo.
Rwy'n amlwg yn cefnogi yr hyn yr ydych chi’n ei wneud. Rwy'n falch iawn o weld ei fod yn ôl ar yr agenda, ei fod yn cael ei drafod, ac rwy'n gwybod heb unrhyw amheuaeth o gwbl, o bopeth yr wyf i newydd ei ddweud, bod ganddo'r potensial i achub bywydau.