Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Er yn cydnabod bod cau ysgolion wedi bod yn rhan angenrheidiol o reoli'r pandemig, roedd consensws clir ymhlith y tystion i'r pwyllgor fod effaith peidio â bod yn yr ysgol ar lesiant lawer o blant yn un sylweddol. Mae Hefin David newydd ddisgrifio ei brofiad o a'i blant o yn glir iawn, a bydd eraill ar draws Cymru wedi wynebu bob math o heriau. Barn y tystion i'r pwyllgor oedd y dylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r cyswllt mwyaf diogel wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc yn yr ysgolion. Ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y berthynas arbennig rhwng plentyn ac athro, a'r profiad o gyd-ddysgu gyda'i gilydd a pha mor greiddiol ydy hynny i addysg yn y pen draw. Ac felly mae'r cyhoeddiad am ailagor ym Medi i bob plentyn yn siŵr o gael ei groesawu gan rieni a gan blant a phobl ifanc, ond hefyd gan y tystion ddaeth i'n pwyllgor ni pan oeddem ni'n trafod hyn, a gan y comisiynydd plant.
Ond, wrth gwrs, efo posibilrwydd real iawn o ail don, mae'n ofnadwy o bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi yn sgil yr heriau a wynebwyd yn ddiweddar wrth geisio cytuno ar drefniadau ar gyfer dychweliad ein plant ni i'r ysgol. Mae'n rhaid rhoi anghenion y plentyn neu'r person ifanc yn y canol. Ac mae'n hollbwysig parhau i wella dysgu o bell a chysylltu o bell gyda phob disgybl a lleihau'r bwlch digidol rhag ofn y bydd angen cau'r ysgolion i gyd eto, neu mewn rhannau penodol o'r wlad o dro i dro. Mae hyn hefyd yn berthnasol iawn yn y sector addysg bellach. Mae cau'r bwlch digidol yn y sector hwnnw wedi dod yn rhywbeth sydd yn amlwg angen sylw.
Yn adroddiad y pwyllgor, 'Cadernid Meddwl', fe bwysleisiwyd rôl hanfodol ysgolion o safbwynt iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae hyn yn wir rŵan hyn yn fwy nag erioed. Cyn dyfodiad y pandemig, mi oedd y canllawiau yr oeddem ni wedi galw amdanyn nhw ar ymagwedd ysgol-gyfan at ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol yn cael eu paratoi. Yn ystod ein hymchwiliad cychwynnol ni i effaith y COVID, fe wnaethom ni alw am gyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer ymgynghoriad fel mater o flaenoriaeth, er mwyn sicrhau y gall cymorth ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol ein plant ni fod yn nodwedd ganolog o'u haddysg. Dwi yn falch iawn o weld fod y canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar 8 Gorffennaf a'u bod nhw allan i ymgynghoriad tan ddiwedd mis Medi. Ond dwi'n gobeithio y bydd yr egwyddorion craidd yn cael eu mabwysiadu llawer iawn cyn hynny.
Mae'n amlwg o'r dystiolaeth gafodd y pwyllgor bod angen bod yn ofalus sut ydym ni yn pwyso a mesur effaith y COVID ar iechyd meddwl ein plant a phobl ifanc ni, ac i gydnabod fod rhai agweddau fel gorbryder, straen ac unigrwydd yn ymateb naturiol i'r risgiau a'r heriau sydd wedi dod yn sgil y pandemig. Ar y llaw arall ac ar y pegwn arall, mi wnaeth Samariaid Cymru yn y pwyllgor ddweud ei bod hi'n rhy gynnar i ddata ddangos yn union pa effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar lefelau hunanladdiad, a bod angen monitro yn agos iawn y ffactorau sydd yn gallu cyfrannu at gyfraddau hunanladdiad a risg hunanladdiad.
Fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ei drafod yn barod, beth sydd wedi dod yn hollol amlwg ydy ei bod hi'n bwysig rŵan yn y cyfnod nesaf yma bod ein plant a phobl ifanc ni yn gwybod at pwy y gallan nhw droi am gymorth. Mae hynny wedi dod yn reit amlwg oherwydd bod yr ysgol a meddygfeydd ddim wedi bod ar gael iddyn nhw yn yr un ffordd er mwyn pwyntio nhw yn y cyfeiriad cywir tuag at gymorth.
Mae'n bwysig, felly, bod ein hargymhellion ni—i fynd yn ôl eto at adroddiad pwysig y pwyllgor, 'Cadernid Meddwl'—mae'n bwysig bod yr argymhellion ynglŷn â'r bylchau mewn gwasanaethau i blant a phobl ifanc a'r rheini sydd yn cael eu galw'r 'canol coll', sef y plant a phobl ifanc yma sydd ddim yn gymwys ar gyfer gwasanaethau CAMHS ond yn methu dod o hyd i gymorth arall chwaith, cymorth lefel isel—mae mor bwysig rŵan bod y gwasanaethau yna yn cael eu rhoi mewn lle a bod yna arian tu ôl i hynny yn ystod y cyfnod nesaf yma rŵan o ddelio efo'r pandemig.
Dwi wedi canolbwyntio ar ddwy agwedd ar yr adroddiad, ond mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i bawb ddaeth i roi tystiolaeth a chyfrannu at ein gwaith ni mewn cyfnod mor bryderus, ac mewn cyfnod lle mae'r darlun yn newid mor eithriadol o gyflym. A dwi'n credu bod angen i ni gyd fod yn monitro ac yn cadw gwyliadwriaeth gyson ynglŷn ag effaith y pandemig ar ein plant a'n pobl ifanc ni dros wyliau'r haf, ac yn sicr i fewn i'r hydref ac ymlaen, a dweud y gwir, dros y blynyddoedd nesaf yma. Diolch yn fawr.