Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Nid wyf i wedi gallu cyfrannu at yr adroddiad hwn fel y byddwn i'n ei wneud fel rheol, gan nad wyf i wedi gallu bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oherwydd fy mod i wedi bod yn gofalu am fy mhlant, sy'n dipyn o eironi. Mae gen i lysferch 13 oed sy'n cael trafferth gyda gwaith ysgol ar hyn o bryd, a merch awtistig bedair oed, a merch niwro-nodweddiadol iawn dair oed sydd wrth ei bodd yn ymddangos ar y teledu, ac nid wyf i'n gwybod ar ôl pwy y mae hi'n tynnu. Bob tro y byddaf i'n ceisio gwneud unrhyw beth ar Zoom, maen nhw yn y cefndir, a bydd y Cadeirydd yn tystio i hynny, oherwydd ei sylw cyntaf pan gawsom ni ein cyfarfod Zoom cyntaf oedd y dylwn i eu bwydo gyda mwy o bops iâ er mwyn iddyn nhw roi llonydd i mi.
Felly, mae'n sicr wedi bod yn her, ac rwyf i wedi canfod gyda fy mhlentyn ieuengaf y bu'r dychweliad i ofal plant i'w groesawu'n fawr ac mae wedi gwneud bywyd yn haws, ac rwyf i hefyd wedi canfod gyda fy llysferch 13 oed ei bod hi wedi gallu cael gafael ar waith ysgol ac mae hi yn ôl yn yr ysgol erbyn hyn, ac mae ei mam wedi bod yn hynod gefnogol ohoni, ac rwyf i wedi bod yn llawn parch ati o weld hynny. Bu'r broblem gyda fy merch awtistig bedair oed, sy'n bump ddydd Sadwrn. Dyma fu her fwyaf fy mywyd, ac mae'r 10 wythnos diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd. Cafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn dair oed ac rydym ni wedi bod yn ceisio cael datganiad ar ei chyfer, asesiad statudol ar ei chyfer, ers mis Medi diwethaf, pan oedd hi'n gymwys am y tro cyntaf i wneud cais, ac fe'i gwrthodwyd ar yr hyn sydd, yn fy marn i, yn bwynt technegol. Rwy'n credu, erbyn hyn, pe bai pethau wedi bod yn arferol byddai wedi cael datganiad. Nid yw wedi cael unrhyw gymorth na gofal sydd eu hangen arni o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Yn syml, mae wedi bod yn dorcalonnus, yn anodd iawn, gweld y camau atchweliadol y mae hi wedi eu cymryd a'i hiaith yn cymryd camau yn ôl.
Nid yw'r rheswm yr wyf i'n dweud hyn er fy mwyn fy hun, oherwydd mae gen i'r modd i gysylltu â'r ysgol a chysylltu ag awdurdodau lleol i ymdrin â'r materion hyn, ond rwyf i wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi yn yr un sefyllfa yn union. Hoffwn ddarllen i chi ddarn o neges e-bost gan rywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi. Meddai'r rhiant hwn:
'Rwy'n rhiant i bedwar o blant rhwng saith ac 16 oed.'
Rwyf i wedi golygu darnau o'r e-bost fel na fyddwch ch'n gallu adnabod yr unigolyn:
'Mae gan fy merch hynaf anhwylderau yn y sbectrwm awtistig a diagnosis clinigol o orbryder, mae un plentyn yn drawsrywiol, ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig ac roedd yn gwrthod mynd i'r ysgol tan eleni. Mae gan fy mhlentyn 11 oed ddiagnosis o oedi o ran datblygiad cyffredinol a disgwylir iddo ddechrau mewn ysgol arbennig ym mis Medi. Mae gan fy mhlentyn saith oed ddiagnosis o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig. Yn ogystal â hyn, rwy'n gofalu am fy mhartner, sydd â thri chyflwr iechyd sylweddol, sy'n effeithio ar y gallu i weithredu o ddydd i ddydd. Mae gan ddau o'r plant ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac rwyf i ar fin dechrau'r broses o wneud cais am ddatganiad ar gyfer fy merch ieuengaf.'
Felly gallwch ddychmygu fy mod i'n uniaethu yn arbennig â'r agwedd honno:
'Mae fy nheulu wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae canslo trefn ddyddiol y plant yn sydyn a chael gwared ar unrhyw bosibilrwydd o gymorth i bob un ohonom ni wedi cael effaith ofnadwy. Mae gwasanaethau cymdeithasol y plant wedi dirywio'n aruthrol ac mae eu hymddygiad heriol wedi gwaethygu llawer. Mae hyn wedi rhoi straen enfawr ar y berthynas rhwng fy mhartner a minnau. Rhoddais gynnig ar addysgu gartref i ddechrau, ond oherwydd anghenion ychwanegol y plant a'm swyddogaeth fel gofalwr i bum aelod anabl o'r teulu, daeth yn amlwg iddyn nhw'n fuan bod hon yn dasg amhosibl. Nid ydyn nhw wedi cael unrhyw addysg ystyrlon ers hynny.'
Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo â hynny, ac mae hwn yn gyflwr ac yn sefyllfa sy'n waeth o lawer na'r sefyllfa yr wyf i'n cael fy hun ynddi, ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw bod mwy o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n hysbysu am y cyflyrau hyn ac nid ydym ni'n gwybod am y sefyllfaoedd hyn oherwydd y diffyg hysbysu hwnnw.
Rwy'n aelod o'r grŵp gwirfoddol anghenion dysgu ychwanegol Sparrows lleol, a gwn fod rhieni yno hefyd, sydd yn y sefyllfaoedd hyn ac yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig y plant hynny heb asesiadau statudol—yn enwedig y plant hynny. Ond hefyd, pan fyddwn ni'n sôn am blant agored i niwed, a'r diffiniad o 'agored i niwed', beth ydym ni'n ei olygu wrth ddweud 'agored i niwed'? A ydyn nhw'n agored i niwed oherwydd eu hamgylchedd, neu a ydyn nhw'n agored i niwed oherwydd yr anghenion penodol sydd ganddyn nhw nad yw rhieni'n gallu eu diwallu? Mae'r rhain yn gwestiynau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eu hateb, ac mae'n rhaid eu hateb yn well nag y'u hatebwyd hyd yn hyn.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw fy mod i'n croesawu'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru i fynd â phlant yn ôl i'r ysgol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ac mae'n gynnydd yng Nghymru sydd ymhell ar y blaen, rwy'n credu, i weddill y Deyrnas Unedig, ac mae'n gwneud gwahaniaeth aruthrol. Ond y pryder sydd gen i, os bydd ail don, os bydd cyfyngiadau symud pellach, mae'n rhaid peidio â rhoi rhieni—yn enwedig y rhieni hynny yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw heddiw—yn y sefyllfa honno eto.