Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. 'Mae plant wedi dioddef niwed cyfochrog yn ystod y pandemig.' Dyna eiriau Dr David Tuthill o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant pan roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar.
Fel pwyllgor, rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n ymddangos ar hyn o bryd bod plant a phobl ifanc yn llai agored i'r feirws nag oedolion, ond nid oes amheuaeth bod effeithiau ehangach COVID-19 a'r mesurau a gymerwyd i'w reoli wedi effeithio'n sylweddol ar eu bywydau: cau ysgolion a chlybiau ieuenctid; cyfyngiadau ar chwarae ac ar bobl ifanc yn cymdeithasu; effaith y feirws ar aelodau teuluoedd; a ffigurau marwolaethau brawychus.
Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud yng Nghymru, cyhoeddodd y pwyllgor ein bwriad i edrych yn fanwl ar effaith COVID-19 a'r mesurau a fabwysiadwyd i'w reoli ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni yng Nghymru yn rhoi pwyslais arbennig ar hawliau plant ac am reswm da iawn. Nid yw plant yn pleidleisio, nid oes gan blant undebau llafur i siarad ar eu rhan, ac mae plant wedi cael eu cuddio i raddau helaeth yn y pandemig hwn. Ar y sail hon ac yng ngoleuni ein cred fod angen i reoli effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth eglur i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob Aelod o'r Senedd yn cael cyfle i drafod y materion hyn cyn toriad yr haf.
Mae mynd i'r afael â'r cam nesaf o reoli'r pandemig gyda hawliau plant yn flaenllaw yn ein meddyliau yn flaenoriaeth allweddol i ni ac yn un yr ydym ni wedi ymrwymo i'w dilyn. Dyna pam yr ydym ni wedi trefnu'r ddadl heddiw. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad plant yw dioddefwyr cudd yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Gan droi nawr at ddull craffu'r pwyllgor, rydym ni'n sylweddoli bod pethau o reidrwydd wedi symud yn gyflym i reoli'r pandemig hwn, ac roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein gwaith craffu yn amserol ac yn ystyrlon, felly rydym ni wedi bod yn gohebu yn rheolaidd â Gweinidogion Cymru. Hoffwn gofnodi ein diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser, yn aml o dan yr amgylchiadau anoddaf, i rannu eu profiadau gyda ni. Bydd eich holl safbwyntiau yn cael eu cyhoeddi a byddan nhw'n llywio ein gwaith yn y dyfodol. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi rhoi eu cwestiynau i ni, yr wyf i wedi gallu eu gofyn yn uniongyrchol i dystion yn y pwyllgor. Mae wedi ein galluogi, mewn ffordd fach, i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn uniongyrchol yn ein pwyllgor.
Fel Cadeirydd, byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar y prif themâu yr ydym ni wedi canolbwyntio arnyn nhw yn yr wythnosau diwethaf a gwn y bydd Aelodau eraill yn siarad yn fanylach am bob un ohonyn nhw. Gan droi yn gyntaf at addysg, drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi clywed yn rheolaidd gan y Gweinidog am ei chynlluniau ar gyfer ysgolion. Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd pob plentyn yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol ac yn amodol ar ostyngiad parhaus i gyfraddau'r haint yn y gymuned.
Er bod rhai disgyblion wedi cael cefnogaeth ragorol i'w dysgu gartref gan staff eu hysgol a'u rhieni a'u gofalwyr, rydym ni'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o blant a theuluoedd. Mae'r anawsterau hyn wedi amrywio o heriau gyda thechnoleg a band eang i rieni a gofalwyr yn gorfod cydbwyso gwaith a bywyd cartref yn barhaus. Mae'r cymorth y mae plant wedi ei gael gyda'u dysgu gartref wedi bod yn rhy amrywiol hefyd, wrth i rai plant gael cyswllt o bell wyneb yn wyneb o ansawdd uchel gydag athrawon a gwersi byw, a phlant eraill yn cael dim o gwbl.