Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Yn bwysicaf oll, rydym ni hefyd yn gwybod bod hwn wedi bod yn brofiad sydd wedi ynysu rhai plant a phobl ifanc yn wirioneddol. Bu ganddyn nhw hiraeth ar ôl eu ffrindiau, hiraeth ar ôl eu teuluoedd, ac maen nhw wedi methu cerrig milltir hanfodol megis arholiadau, dathliadau gadael yr ysgol, proms, i enwi dim ond rhai.
Nodwyd ein siom na ellid cytuno gydag undebau llafur ar yr opsiwn a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru o gymryd gwyliau haf cynharach a dychwelyd i'r ysgol ym mis Awst. Rydym ni hefyd yn siomedig iawn nad yw'r bedwaredd wythnos a gynigiwyd i ysgolion i ailgydio, dal i fyny a pharatoi'r plant ar gyfer tymor yr hydref wedi digwydd mewn sawl rhan o Gymru, er gwaethaf gwaith caled y Gweinidog.
O ystyried y posibilrwydd real iawn o ail don o'r coronafeirws yn yr hydref, mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu o'r heriau diweddar yn cytuno ar drefniadau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol. Pan gaeodd ysgolion ym mis Mawrth, roedd yn argyfwng, ond ni fydd yn argyfwng yn yr hydref. Mae'n rhaid i les plant fod yn ganolog i benderfyniadau yn ymwneud ag ysgolion, ac rydym ni'n annog Llywodraeth Cymru a'r sector i weithio gyda'i gilydd i fod yn hyblyg, yn feiddgar ac yn arloesol yn wyneb yr hyn sy'n dal i fod yn bandemig byd-eang. Mae'n rhaid i blant ledled Cymru gael cyswllt cyson o safon uchel gyda'u hathrawon, ac mae'n rhaid sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i holl blant Cymru ddatblygu eu haddysg. Bydd hyn hefyd yn galluogi ysgolion i chwarae eu rhan hanfodol yn y dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yr wyf i mor falch sy'n cael ei gyflwyno yng Nghymru nawr.
Mae amlygrwydd ein plant mwyaf agored i niwed a'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw wedi bod yn achos pryder sylweddol i ni. Mae ysgolion yn rhwyd ddiogelwch hanfodol i lawer o blant, ac mae'r niferoedd cymharol isel o blant agored i niwed sydd wedi bod yn mynychu hybiau ysgol, er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth, wedi peri pryder gwirioneddol i ni. Er i ni groesawu'r amrywiaeth o gamau a gymerwyd a'r dull trawslywodraethol a fabwysiadwyd i gynorthwyo plant agored i niwed, rydym ni'n dal yn bryderus y gallai problemau pwysig a difrifol fod wedi cael eu methu oherwydd bod plant yn anweledig yn ystod y cyfnod hwn.
Mae hefyd yn hanfodol cydnabod y gallai llawer o blant fod wedi dod yn agored i niwed yn ystod y cyfyngiadau symud. I ormod o blant, nid yw'r cartref yn lloches. Rydym ni hefyd wedi siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc mewn gofal a'r rhai yn y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ddysgu am eu profiadau o COVID, ac rydym ni'n credu, yng nghyfnod nesaf rheoli'r pandemig, bod angen mwy o sylw i sut yr ydym ni'n cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas, y dangoswyd bod y feirws wedi effeithio ar lawer ohonyn nhw yn anghymesur. Mae'r pwyllgor yn credu bod yn rhaid i blant agored i niwed a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn agored i niwed oherwydd y pandemig fod yn flaenoriaeth. Mae plant wedi bod yn gudd ac yn ddi-lais i raddau helaeth yn y pandemig hwn, ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon i fod yn llais iddyn nhw.
Soniais, yn fy sylwadau agoriadol, bod plant a phobl ifanc, diolch byth, wedi bod yn llai agored i'r feirws nag oedolion. Serch hynny, mae'r effaith ar eu hiechyd meddwl wedi bod yn destun pryder mawr. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth yr ydym ni wedi ei chael bod llawer o'r teimladau y mae pobl ifanc wedi bod yn eu cael, fel pryder, straen ac unigrwydd, yn ymateb naturiol i'r pandemig. Mae angen taro cydbwysedd pwysig iawn rhwng cydnabod a chynorthwyo problemau iechyd meddwl a pheidio â meddygoli ymatebion cwbl naturiol i bandemig sy'n frawychus ac yn drawmatig i bob un ohonom ni. Ond mae'r pwysigrwydd bod plant a phobl ifanc yn gwybod lle y gallan nhw fynd i gael cymorth yn eglur ac yn bwysicach fyth pan fydd lleoedd cyfarwydd fel ysgolion a meddygfeydd yn llai hygyrch.
Mae'r pwyllgor yn credu bod gweithredu ein hargymhellion 'Cadernid meddwl' yn bwysicach ac yn fwy brys nag erioed. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i'r bylchau mewn gwasanaethau i'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd angen cymorth ond nad ydyn nhw'n bodloni'r trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed—y canol coll fel y'i gelwir. Rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i roi blaenoriaeth i weithredu ein holl argymhellion 'Cadernid meddwl', a byddwn yn dychwelyd at ein gwaith dilynol ar yr ymchwiliad hwnnw ar y cyfle cyntaf posibl.
O dan lawer o amgylchiadau, yn enwedig o ran iechyd meddwl, mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn elfen hanfodol o gymorth. Mae'n rhaid i gynlluniau gwasanaethau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwbl ganolog iddyn nhw ac mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod anghenion unigol. Nid yw un ateb yn addas i bawb.
Fel pwyllgor, roeddem ni'n bryderus iawn, er bod anghenion iechyd corfforol y boblogaeth o reidrwydd yn flaenoriaeth yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, dywedwyd wrthym ni fod gwasanaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles plant yn agored i'r risg o ddadflaenoriaethu. Gan gydnabod y posibilrwydd gwirioneddol o ail don, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nodi'r camau eglur y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl plant yn cael eu diogelu a'u hariannu yn ddigonol i osgoi'r canlyniadau hirdymor a fyddai'n deillio o ddiffyg cymorth arbenigol.
Gan droi nawr at addysg bellach ac uwch, dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i ni effaith ariannol hynod bryderus colli ffioedd myfyrwyr ac incwm arall prifysgolion, y risg uwch o ansolfedd prifysgolion a'r tebygolrwydd sylweddol y bydd staff yn colli eu swyddi. Rydym ni wedi clywed pryderon nad yw Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol i ddarparwyr na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau wedi'u datgan yn gyhoeddus i wneud hynny. Rydym ni hefyd wedi clywed pryderon nad oes cynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer unrhyw ddyraniadau ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer myfyrwyr a allai fod yn dioddef caledi oherwydd y pandemig, ac mae ansicrwydd hefyd yn parhau ynghylch sut y bydd cyrsiau yn cael eu darparu a beth fydd y cyfuniad o addysgu ac asesu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar gyfer addysg bellach, codwyd dysgu cyfunol a sicrhau bod staff yn cael y dysgu proffesiynol sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu hyn gyda ni fel heriau.
I gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, bydd monitro datblygiadau yn ofalus dros yr haf yn flaenoriaeth i'r pwyllgor. Rydym ni'n bwriadu parhau i graffu yn amserol ac yn adeiladol ar yr ymateb i COVID i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i bob penderfyniad. Rydym ni'n ymwybodol y bydd angen rheoli'r dychweliad i'r ysgol ym mis Medi yn ofalus ac yn ddiogel, ond mae'r pwyllgor wedi datgan yn eglur ei safbwynt bod yn rhaid sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gael cyswllt wyneb yn wyneb â staff ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol, yn ogystal ag ar gyfer eu haddysg. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn eglur drwy gydol y pandemig hwn bod mwy nag un niwed o coronafeirws. Rydym ni'n cytuno ac rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod lliniaru'r niwed uniongyrchol a chyfochrog i blant o'r pandemig hwn yn brif flaenoriaeth. Diolch.