17. Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc'

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 6:29, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. O ran fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at rai agweddau pwysig ar waith craffu'r pwyllgor ar effaith COVID-19 fel y mae'n berthnasol i blant a phobl ifanc agored i niwed yn benodol. Gwn fod y Senedd hon yn rhannu pryder cyffredinol ynghylch rhagolygon ein plant a'n pobl ifanc yn y dyfodol ond, fel y mae'r adroddiad yn ei bwysleisio, clywodd y pwyllgor bryderon penodol ynghylch diogelu plant, a'r ffaith y gallai llawer o broblemau fod wedi eu cuddio o'r golwg erbyn hyn.

Felly, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau partner a ddarparodd dystiolaeth o'r fath i ni. Fe wnaeth ein hatgoffa yn ddifrifol, yn anffodus iawn, nad yw'r cartref yn lle diogel i bob plentyn. Ac er y byddai gan asiantaethau diogelu wybodaeth am nifer o blant agored i niwed, nid oes gennym unrhyw syniad faint yn fwy o blant a oedd mewn perygl yn ystod y pandemig, oherwydd yr amgylchiadau a grëwyd gan y cyfyngiadau symud. Dywedodd yr NSPCC wrthym:

Rydym ni'n pryderu, gyda'r cyfyngiadau symud ar waith, bod plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso, neu sy'n cael eu cam-drin a'u hesgeuluso, mewn perygl o gael eu cuddio oddi wrth wasanaethau.

Tynnodd y dystiolaeth sylw, er enghraifft, at y rhan bwysig y mae ysgolion ac athrawon yn ei chwarae fel rheol wrth ddatgelu materion diogelu. Yn aml, nhw yw'r oedolion dibynadwy sydd wedi bod allan o gyrraedd rhwydd cymaint o blant yn ystod y cyfnod hwn.

Buom yn craffu felly ar waith Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidog ar ganllawiau Llywodraeth Cymru fel y'u cyhoeddwyd ar 1 Mai, a chroesawyd y dull traws-lywodraethol o ymdrin ag anghenion plant agored i niwed gennym. Mae'r canllawiau yn cynnwys hyblygrwydd yn y meini prawf sy'n ymwneud â phlant agored i niwed, a chynnig mynediad ehangach i'r ysgolion hyb. Ac roedd y cynlluniau hynny yn rhan bwysig o'r ymdrech i gynorthwyo plant agored i niwed dros y misoedd diwethaf. Ond clywsom bryderon hefyd nad oedd plant agored i niwed yn defnyddio'r hybiau. Ac er bod niferoedd wedi cynyddu yn gyson, roedd gormod nad oeddent yn mynychu o hyd, ac yn anweledig i raddau helaeth.

Mae'r pwyllgor yn awgrymu felly bod angen rhagor o dystiolaeth i ddeall yn fanylach yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod y canllawiau aros gartref. I Lywodraeth Cymru, awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol, byrddau diogelu, a'r sefydliadau sy'n darparu cymorth a gwasanaethau, rydym ni'n gwybod bod gostyngiad sylweddol i atgyfeiriadau diogelu yn bryder mawr, fel y dylai fod i bob un ohonom ni. Ac mae hefyd wedi bod yn her enfawr arall i'n partneriaid mewn llywodraeth leol, a chan nad oedd unrhyw lacio ar ddeddfwriaeth gwasanaethau plant, yna, yn gwbl briodol, roedd yr un safonau yn dal i fod ar waith a bu'n rhaid ymateb iddyn nhw.

Felly, mae'r dasg o gadw mewn cysylltiad â phlant agored i niwed mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, ac o darfu cyn lleied â phosibl arnyn nhw, wedi gofyn am arloesedd a hyblygrwydd, ac rydym ni wedi gweld hynny drwy'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn ystod yr argyfwng. Ond gall honno fod yn gyfyngedig yn y cartrefi hynny nad oes ganddyn nhw'r dechnoleg angenrheidiol, er gwaethaf y cymorth cynhwysiant digidol sydd wedi bod ar gael, ac, wrth gwrs, anallu rhai rhieni, gofalwyr, ac aelodau teulu ehangach i ddarparu'r cymorth addysgol ac emosiynol sydd ei angen ar blant.

Craffodd y pwyllgor hefyd ar y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, a diolchwn i'r Gweinidogion am eu hymateb. Ond mae'r pwyllgor yn eglur iawn wrth ofyn, os bydd unrhyw lacio, eu bod nhw'n cynnwys cymysgedd o'r mesurau cadw cydbwysedd a fydd yn ofynnol i sicrhau bod disgyblion AAA yn cael y cymorth angenrheidiol. A chafodd hynny ei fynegi mor dda gan fy nghyd-Aelod Hefin David yn gynharach.

Yn yr amser sydd ar gael, ni allaf ond tynnu sylw at rai o'r agweddau ar y gwaith craffu a wnaed gan y pwyllgor. Ond rydym ni wedi nodi'n eglur bod hawliau'r plentyn, ac anghenion plant a phobl ifanc agored i niwed yn arbennig, yn ganolog i'n gwaith. Ni allwn ni adael i'r pandemig hwn guddio'r weithred o adael y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wynebu mwy fyth o risg. Ac rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y pwyllgor yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, gyda'r tasgau pwysig sy'n ein hwynebu. Mae'r pandemig hwn wedi bod yn her i'r rhai mwyaf cydnerth ohonom ni, felly gadewch i ni fod yn lleisiau sy'n amddiffyn ac yn gofalu am y lleiaf cydnerth.