Y Sector Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:02 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 10:02, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Hefin David am y cwestiwn yna. Cymerwyd y cam o ailagor y sector busnes cyfan yng Nghymru mewn ymgynghoriad â busnesau, cyrff cynrychioliadol ac undebau llafur i sicrhau bod ein dull o ailagor yn ddiogel, yn gymesur ac yn deg i fusnesau, i weithwyr ac i gwsmeriaid. Cyhoeddais gamau pellach i leddfu'r cyfyngiadau symud ynghyd ag amserlen ategol ddydd Gwener yr wythnos diwethaf.