Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:03 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Fel y gallwch chi ddychmygu, Prif Weinidog, mae dydd Gwener yn ddiwrnod prysur iawn ar fy nhudalen Facebook a thrwy e-bost, lle mae gen i gwestiynau am amgylchiadau penodol. Rwyf i wedi cael llawer o gwestiynau, ond rwyf i wedi dewis dau o'r rhai a ofynnwyd amlaf.
Mae'r cyntaf o'r rhain yn ymwneud â hyfforddwyr gyrru yn cael cynnig gwersi: pryd y bydd hyfforddwyr gyrru yn cael cynnig gwersi, a thrwy estyniad, pryd y bydd canolfannau prawf yn cael agor wedyn? A'r cwestiwn arall a ofynnir amlaf yw canolfannau chwarae i blant: pryd y bydd canolfannau chwarae i blant yn cael agor? Ac mae hynny'n cynnwys pethau fel chwarae meddal.