Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:45 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:45, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Rydym eisiau sicrhau y gall awdurdodau lleol wneud penderfyniadau amserol a gwneud newidiadau priodol i'r amgylchfyd cyhoeddus i alluogi busnesau i weithio mewn ffordd ddichonadwy, hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Ac fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gobeithio y gallwn alluogi busnesau o fewn y sector lletygarwch i agor dan do o'r trydydd o fis Awst ymlaen, ar yr amod bod y coronafeirws yn parhau i fod dan reolaeth lawn gennym ni.