Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:46 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 11:46, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n credu y byddai ef yn cytuno â mi y bydd y mannau awyr agored hynny'n dal i fod yn ddefnyddiol i fusnesau, er hynny; oherwydd pellhau cymdeithasol, bydd ganddynt lai o gwsmeriaid dan do ac mae hynny'n cael effaith ar eu henillion nhw.

Os caf i droi nawr at fater y busnesau hynny nad ydynt wedi gallu cael cymorth naill ai gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU hyd yn hyn, o ystyried y pwynt a wnaeth y Gweinidog yn y gorffennol na fydd modd helpu pawb. Mae ef yn ymwybodol bod y gronfa bwrsariaeth cychwyn busnes wedi cael derbyniad a chefnogaeth dda iawn. Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio o'r blaen at bosibilrwydd cronfa caledi i'r busnesau hynny—niferoedd cymharol fach, gyda gobaith—nad ydynt wedi llwyddo i gael cymorth o rywle eraill. Ond mae'n ymddangos y ceir rhywfaint o ddryswch nawr ynghylch a yw'n parhau i fwriadu gwneud felly.

Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw a yw'r posibilrwydd o gronfa caledi yn cael ei ystyried o hyd i'r nifer gymharol fach o fusnesau nad ydynt wedi gallu cael unrhyw gymorth eto? Rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi, er nad yw'r busnesau hynny efallai yn arwyddocaol iawn o ran yr economi yn ei chyfanrwydd, eu bod nhw'n bwysig iawn i berchenogion y busnesau a'r bobl sy'n gweithio ynddyn nhw, a'r cymunedau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw.