Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:37 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 11:37, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fy mhryder i, Gweinidog, yw y bydd Cymru, gwaetha'r modd, yn wynebu dirwasgiad dyfnach. Yn sicr, rwyf i o'r farn fod angen inni ymddiried yn ein busnesau ni o ran ymarfer ymbellhau cymdeithasol diogel ac ailagor eu hadeiladau er mwyn i'r economi ddechrau symud eto. Tybed a gaf i wybod gennych pa asesiad a wnaed o ran y dull arafach o ailagor yr economi o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.