Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:38 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:38, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ef, ac os caf i ddweud, yn gyntaf oll, fod ein dull mwy pwyllog ni yng Nghymru wedi arwain, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, at gyfradd positifrwydd o 0.25 y cant yn unig ar gyfer yr holl brofion hynny sy'n digwydd ar hyn o bryd. Cymharwch hynny â Blackburn, lle mae'r gyfradd yn 7 y cant, 28 gwaith yn uwch. Fe fyddwn i'n gofyn i unrhyw fusnes yng Nghymru, 'A fyddai'n well gennych chi fod yn gweithio yn y fan hon ar hyn o bryd neu yn Blackburn?' Mae ein dulliau gofalus ni o weithredu wedi cael eu cynllunio i atal achosion peryglus, niweidiol ac ail don. Dyna pam rydym ni wedi bod yn bwyllog, dyna pam rydym ni wedi sicrhau bod buddiannau hirdymor yr economi a busnesau—y 260,000 o fusnesau sydd yng Nghymru—yn ganolog i'n proses ni o wneud penderfyniadau.