Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:44 am ar 15 Gorffennaf 2020.
A gaf i ddiolch i'r Aelod a'i sicrhau ef bod ugeiniau o ddogfennau canllaw ar gael ar wefan y Llywodraeth erbyn hyn? Maent ar gael i wahanol fathau o weithleoedd. Maent ar gael i gyflogwyr yn ogystal â dinasyddion, yn enwedig i deithwyr sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus. Rydym ni wedi ceisio gwneud y canllawiau mor eglur a chynhwysfawr ag sy'n bosib, ac mae'n gwbl hygyrch i unrhyw un sy'n awyddus i gael canllawiau, os ydyn nhw'n rhedeg busnes neu'n ymdrin ag unrhyw fusnes.