Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:42 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch am eich ateb, Gweinidog. Tybed a fyddech chi'n ymrwymo i ddyddiad pan allai gweddill yr economi ailagor. Fy nghwestiwn i fyddai pam mae'n rhaid glynu mor gaeth i adolygiadau bob tair wythnos. Os yw'n iawn rhoi newid ar waith nawr, yna gwneud hynny nawr sydd ei angen. Pan wneir cyhoeddiadau, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eglurder ynghlwm wrth y cyhoeddiadau hynny. Er enghraifft, fe soniais i am atyniadau dan do i dwristiaid. Fe soniodd Andrew R.T. Davies yn ei sylw heddiw yn ystod y datganiad busnes am leoliadau i briodasau, ac mae hwnnw'n fater a godwyd gyda minnau hefyd. Nid yw'n ymddangos fod canllawiau clir ar gael. Rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi ein cyfeirio ni at y cwestiynau cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n defnyddio honno'n aml, ac fe werthfawrogir honno ac mae hi'n ddefnyddiol, ond nid yw bob amser yn rhoi—yn aml nid yw'n rhoi— yr eglurder angenrheidiol i fusnesau. Yn y pen draw, fe hoffwn i gael cyhoeddiadau gydag arweiniad clir yn gysylltiedig â nhw fel nad yw fy mewnflwch i'n orlawn, ac nad yw'r cyfryngau cymdeithasol yn llawn, o'r cwestiynau hynny sy'n dilyn. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud eich bod wedi siarad â'r diwydiant, Gweinidog, wrth gyflwyno canllawiau, ond nid yw pob busnes yn aelod o gymdeithasau neu gyrff masnach. Felly, mae angen gwneud cyhoeddiadau sydd â chanllawiau ynghlwm wrthynt ac sy'n cyfathrebu'n effeithiol hefyd â'r sectorau penodol hynny.