Canllawiau Ymbellhau Cymdeithasol

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 12:07 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 12:07, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rwy'n deall bod angen i iechyd y cyhoedd ddod yn gyntaf bob amser a bod lles pobl yn cael ei ddiogelu. Ond mae llawer o fusnesau wedi dod ataf yn tynnu sylw at brofiadau mewn gwledydd eraill a chyngor Sefydliad Iechyd y Byd bod 1m yn bellter cymdeithasol sy'n dderbyniol. Yma yng Nghymru, mae gennym ni 2m. Pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal o fewn y Llywodraeth erbyn hyn i roi ystyriaeth i ba mor bell y dylai'r llinell fod, gan fod busnesau sy'n ailagor yn buddsoddi llawer yn y rheol 2m ac yn amlwg byddai'n rhaid iddyn nhw fuddsoddi eto pe byddai hynny'n newid yn y dyfodol agos?