Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 12:08 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Dyna'n union sydd wedi digwydd dros y ffin, ac ni fyddem yn dymuno gweld busnesau yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr ar osod rhwystrau ffisegol, canllawiau ac arwyddion na fyddant yn eu lle am gyfnod maith o amser. Wrth gwrs, mae'r rheoliadau dan adolygiad parhaus yng Nghymru, ond mae'n gwbl glir bod 2m o ymbellhau cymdeithasol yn amddiffyniad gwell nag 1m, ac felly, lle bynnag y bo modd gwneud hynny, dylid cadw at 2m.
Nawr, wrth gwrs, rydym eisoes wedi gwneud y datganiad ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ac fe fyddwn i'n dweud bod ein dull pwyllog ni o weithredu wedi cael ei gefnogi gan gyllid i alluogi busnesau i fynd drwy effeithiau gwaethaf coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y gronfa cadernid economaidd, sy'n werth £0.5 biliwn. Pe bai wedi bod yn gynllun i'r DU gyfan a'i weithredu gan Lywodraeth y DU, byddai wedi bod yn rhaid iddi fod yn gronfa o £10 biliwn i weithio yn yr un ffordd â'r Gronfa Cadernid Economaidd.