Diweddariad Economaidd yr Haf Canghellor y DU

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 12:12 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 12:12, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n credu, yn anffodus, na fydd hanes yn edrych yn ffafriol ar gyhoeddiad diweddar Canghellor y DU. Rwy'n credu mai'r hyn yr oedd ein pobl ifanc yn gobeithio amdano oedd buddsoddiad y mae ei ddirfawr angen yn eu dyfodol, a'r hyn a gawson nhw oedd pizza hanner pris. Felly, a ydych chi'n cytuno felly, mewn lleoedd fel Merthyr Tudful a Rhymni, mai ein cynlluniau ni, Llywodraeth Cymru, ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith allweddol, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r metro, yn ogystal â buddsoddi yn sgiliau ein pobl ifanc ac adfywio cartrefi, busnesau a chanol trefi, yw'r elfennau allweddol i adfer gobaith a chyfleoedd i'n cymunedau yn y Cymoedd?