3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i economi Cymoedd y De yn sgil diweddariad economaidd yr haf Canghellor y DU? OQ55458
Er bod datganiad y Canghellor yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, nid yw'n mynd yn ddigon pell i gyfateb i raddau'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae angen gweithredu'n helaethach ac yn fwy pellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn uniongyrchol ac i adeiladu'n ôl yn well.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n credu, yn anffodus, na fydd hanes yn edrych yn ffafriol ar gyhoeddiad diweddar Canghellor y DU. Rwy'n credu mai'r hyn yr oedd ein pobl ifanc yn gobeithio amdano oedd buddsoddiad y mae ei ddirfawr angen yn eu dyfodol, a'r hyn a gawson nhw oedd pizza hanner pris. Felly, a ydych chi'n cytuno felly, mewn lleoedd fel Merthyr Tudful a Rhymni, mai ein cynlluniau ni, Llywodraeth Cymru, ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith allweddol, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r metro, yn ogystal â buddsoddi yn sgiliau ein pobl ifanc ac adfywio cartrefi, busnesau a chanol trefi, yw'r elfennau allweddol i adfer gobaith a chyfleoedd i'n cymunedau yn y Cymoedd?
A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn atodol, a dweud, yn gyntaf oll, ynghylch rhai o'r datganiadau, nad yw'r symiau canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn yn cyfateb i £500 miliwn, fel y cyhoeddodd y Canghellor, ond yn hytrach i £12.5 miliwn mewn symiau canlyniadol? Nawr, rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch. Fodd bynnag, mae angen o hyd i Lywodraeth y DU weithredu cynlluniau diogelu cyflogaeth sectoraidd ar gyfer sectorau pwysig y bydd yn rhaid iddynt aros naill ai ar gau am gyfnod hwy neu y byddant yn wynebu colled sylweddol mewn refeniw oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae'n amlwg bod lletygarwch a thwristiaeth yn un o'r sectorau hanfodol hynny y mae angen cymorth arnyn nhw, ac mae'n rhaid i mi ddweud, drwy gytuno â'r Aelod, na chafwyd yr ymateb brwdfrydig i'r cynllun 'bwyta allan i helpu allan' sy'n angenrheidiol ar gyfer y sector arbennig hwn.
O ran cymorth i bobl ifanc a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, rydym ni yn datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn galluogi pobl i gynyddu eu sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth newydd. Rydym ni i gyd yn barod i daflu £40 miliwn at y rhaglen arbennig honno. Ac fel y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato, mae cynllun Blaenau'r Cymoedd yn gwbl hanfodol i ffyniant hirdymor y rhanbarth, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyhoeddi'n ddiweddar gynigydd a ffefrir ar gyfer adran 5 ac adran 6 yr A465, ac rwy'n disgwyl y gwerir tua £400 miliwn yn uniongyrchol yng Nghymru drwy'r prosiect, felly hwb gwerth ychwanegol gros o tua £675 miliwn, ac rwy'n disgwyl gweld £170 miliwn o wariant gyda'r gadwyn gyflenwi leol.
O ran y fargen newydd i Brydain ar ei newydd wedd, mae arnaf ofn ei bod yn cynrychioli dim ond 0.25 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Roedd y fargen newydd wirioneddol yn cyfateb i 5 y cant o'r cynnyrch domestig gros—25 gwaith yn fwy. Ac er y byddai'r fargen newydd wedi arwain at greu parciau cenedlaethol, rhaglenni tai enfawr, rheilffyrdd, rwy'n ofni na fydd y fargen newydd a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU ond yn arwain at wella pont yn Sandwell.
Diolch i'r Gweinidog.