Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:42 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, rwy'n derbyn yn llwyr y bydd y gwahaniaeth yn y patrymau gwaith yr ydym ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf, os ydynt am gael eu cynnal, yn newid y galwadau ar ein seilwaith digidol, ac mae'n cael effaith a allai fod yn eithaf pellgyrhaeddol, mewn gwirionedd, o ran datblygiad preswyl a phob math o faterion eraill yn ymwneud â daearyddiaeth.
Mae'r buddsoddiadau band eang yr ydym ni wedi'u gwneud fel Llywodraeth wedi'u gwneud er mwyn gwneud iawn am fethiant Llywodraeth y DU i gyrraedd y rhannau o Gymru y byddem wedi gobeithio y byddant wedi gwneud. Dyna fu ein dull gweithredu. Mae wedi bod yn ddull llwyddiannus. Yr hyn y credaf y mae angen iddo ddigwydd yw ymrwymiad buddsoddi ledled y DU gan Lywodraeth y DU i uwchraddio ein seilwaith mewn ffordd sydd o fudd i bob rhan o'r DU yn gyfartal, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei weld yn digwydd yn y dyfodol.