Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:41 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Gweinidog, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i yn hoffi'r ymadrodd 'adeiladu'n ôl yn well', mae'n dal dychymyg rhywun, ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yw ei fod yn gweithio ar lawr gwlad mewn gwirionedd a'n bod yn gweld newidiadau polisi gwirioneddol gadarnhaol i wneud yn siŵr bod yna newid wrth inni ddod allan o'r pandemig. Er fy mod i yn cytuno â phob un o'r meysydd hynny y cyfeiriodd John Griffiths atyn nhw yn briodol fel meysydd i wella ynddynt, yn anad dim, rwy'n awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru edrych o ddifrif eto ar seilwaith digidol a band eang, oherwydd os gallwn ni gael cysylltiadau band eang yn iawn, yna bydd llai o ddibyniaeth yn y lle cyntaf ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar y car modur, ar ein rhwydwaith ffyrdd. Gwn fod llawer o bobl sydd wedi bod yn gweithio gartref yn ystod y misoedd diwethaf a fyddai'n hoffi mynd ati i wneud hynny gymaint â phosib pe bai'r seilwaith hwnnw yno. Felly, a allech chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau, wrth inni adeiladu'n ôl yn well, ein bod yn adeiladu band eang yn ôl yn well—mae hynny ychydig yn anodd ei ddweud—wrth inni ddod allan o'r pandemig fel ein bod yn cymryd y pwysau hwnnw oddi ar ddulliau eraill o drafnidiaeth o'r cychwyn cyntaf?