Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:20 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae rhywun yn derbyn, yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, mae'n anochel y bydd yna swyddi yn cael eu colli. Ond, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld nawr, a beth dwi wedi sylwi arno fe yn ddiweddar, yw ein bod ni'n gweld cwmnïau yn dewis cau safleoedd mewn trefi gwledig neu drefi arfordirol—cymunedau, efallai, mwy ymylol—a chanoli swyddi lle mae yna bencadlysoedd neu lle mae ganddyn nhw bresenoldeb mwy, dwi'n meddwl. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i yn unig, mae gennym ni Mail Solutions yn Llangollen, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cau'r safle yn fanna ac yn symud y swyddi i Telford. Mae gennym ni hefyd Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes, ger Caernarfon, sydd hefyd yn adleoli swyddi.
Nawr, wrth gwrs, mae effaith colli'r swyddi hynny ar y cymunedau efallai mwy ymylol yna yn gymharol waeth, onid ydy hi—yn relatively waeth—o safbwynt yr effaith y mae'n ei chael ar y cymunedau hynny. Felly, dwi eisiau gofyn yn benodol sut mae'ch strategaeth chi a'ch dynesiad chi at adferiad yr economi yn y cyfnod ôl-COVID yn mynd i gymryd ystyriaeth benodol o hynny. Beth ydych chi'n ei wneud i annog ac i roi sicrwydd i'r cwmnïau sydd yn symud allan o'r cymunedau hynny i drio cadw rhyw fath o bresenoldeb?