Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:21 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Wnaf i ddim ailddweud yr hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y Siambr eisoes heddiw gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi yn sôn am yr ymyriadau a'r gefnogaeth rŷm ni wedi'u cynnal a chynnig hyd yn hyn yng nghyd-destun ymateb sydyn i COVID. Ond mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn berthnasol i'r tymor hir, hefyd, fel y mae'r cwestiwn yn ei amlygu. Gwnaf i ei gyfeirio at y datganiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yn sôn am fuddsoddiad pellach mewn trefi yn rhannau o'i ranbarth e, a hefyd gwaith tasglu'r Cymoedd yn y de, sydd yn edrych ar ail-broffilio rhai o'r buddsoddiadau fanna i allu cefnogi trefi yn y rhan yna o Gymru hefyd.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo eisoes i geisio sicrhau ein bod ni'n edrych ar y sialensiau penodol yng nghanol trefi ar draws Cymru—hynny yw, o ran pwysau ar y sector siopau, retail, a hefyd ar fusnesau bach—ac mae amryw o ymyriadau wedi ffocysu ar hynny, ynghyd â, hefyd, cynnig cyngor i drefi ar sut i edrych ar eu mannau cyhoeddus i gefnogi busnesau i allu gweithredu yn y cyfnod ôl-COVID. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ers rhai wythnosau bellach hefyd.