4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith o adfer trefi Cymru yn sgil effaith Covid-19? OQ55467
Byddwn yn ail-greu ar sail gwerthoedd ac egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd trefi ledled Cymru yn parhau i elwa o ymyriadau, gan adeiladu ar raglenni amrywiol trawsnewid trefi sy'n dod ar ben y pecyn cymorth pellach, gwerth £90 miliwn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae rhywun yn derbyn, yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, mae'n anochel y bydd yna swyddi yn cael eu colli. Ond, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld nawr, a beth dwi wedi sylwi arno fe yn ddiweddar, yw ein bod ni'n gweld cwmnïau yn dewis cau safleoedd mewn trefi gwledig neu drefi arfordirol—cymunedau, efallai, mwy ymylol—a chanoli swyddi lle mae yna bencadlysoedd neu lle mae ganddyn nhw bresenoldeb mwy, dwi'n meddwl. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i yn unig, mae gennym ni Mail Solutions yn Llangollen, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cau'r safle yn fanna ac yn symud y swyddi i Telford. Mae gennym ni hefyd Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes, ger Caernarfon, sydd hefyd yn adleoli swyddi.
Nawr, wrth gwrs, mae effaith colli'r swyddi hynny ar y cymunedau efallai mwy ymylol yna yn gymharol waeth, onid ydy hi—yn relatively waeth—o safbwynt yr effaith y mae'n ei chael ar y cymunedau hynny. Felly, dwi eisiau gofyn yn benodol sut mae'ch strategaeth chi a'ch dynesiad chi at adferiad yr economi yn y cyfnod ôl-COVID yn mynd i gymryd ystyriaeth benodol o hynny. Beth ydych chi'n ei wneud i annog ac i roi sicrwydd i'r cwmnïau sydd yn symud allan o'r cymunedau hynny i drio cadw rhyw fath o bresenoldeb?
Wnaf i ddim ailddweud yr hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y Siambr eisoes heddiw gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi yn sôn am yr ymyriadau a'r gefnogaeth rŷm ni wedi'u cynnal a chynnig hyd yn hyn yng nghyd-destun ymateb sydyn i COVID. Ond mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn berthnasol i'r tymor hir, hefyd, fel y mae'r cwestiwn yn ei amlygu. Gwnaf i ei gyfeirio at y datganiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yn sôn am fuddsoddiad pellach mewn trefi yn rhannau o'i ranbarth e, a hefyd gwaith tasglu'r Cymoedd yn y de, sydd yn edrych ar ail-broffilio rhai o'r buddsoddiadau fanna i allu cefnogi trefi yn y rhan yna o Gymru hefyd.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo eisoes i geisio sicrhau ein bod ni'n edrych ar y sialensiau penodol yng nghanol trefi ar draws Cymru—hynny yw, o ran pwysau ar y sector siopau, retail, a hefyd ar fusnesau bach—ac mae amryw o ymyriadau wedi ffocysu ar hynny, ynghyd â, hefyd, cynnig cyngor i drefi ar sut i edrych ar eu mannau cyhoeddus i gefnogi busnesau i allu gweithredu yn y cyfnod ôl-COVID. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ers rhai wythnosau bellach hefyd.
Fel y mae adroddiad gan y Ganolfan Drefi wedi'i amlygu, mae llawer o drefi arfordirol Cymru yn wynebu effeithiau tymor byr a thymor hir oherwydd COVID-19. Mae gadael yr UE yn gyfle i roi hwb i'n trefi arfordirol adfydus—er enghraifft, mae'r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, y Canghellor, yn paratoi i gyflwyno toriadau treth ysgubol ac ailwampio cyfreithiau cynllunio mewn hyd at 10 o borthladdoedd rhydd newydd o fewn blwyddyn i'r DU ddod yn gwbl annibynnol ar yr UE.
Nodwyd y bydd Llywodraeth y DU yn agor y cynnig i drefi, dinasoedd a rhanbarthau ddod yn borthladdoedd rhydd yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddarach eleni. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU i helpu i hyrwyddo trefi arfordirol yn y gogledd, gan eu bod nhw, yn wir, yn gystadleuwyr brwd iawn i ddod yn borthladdoedd rhydd ar ôl inni adael yr UE?
Wel, nid wyf yn credu fod manteision porthladdoedd rhydd gyfryw ag y mae'r Aelod yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Rwy'n credu bod angen cwestiynu yr hyrwyddo di-amod ar borthladdoedd rhydd. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ystyried unrhyw gyfle i gefnogi cymunedau arfordirol ledled Cymru, boed yn drefi porthladd ai peidio, ac mewn gwirionedd bydd peth o'r cyllid sydd ar gael o gyllid trawsnewid trefi ar gael i drefi arfordirol.
Rwyf yn cydnabod yr her a amlinellodd y Ganolfan Drefi o ran effaith COVID, yn enwedig ar rai o'n cymunedau arfordirol. Rwy'n ofni nad oes gennyf ei gobaith bod Brexit yn rhoi'r cyfle i ddatrys y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod digon o beryglon o'n blaenau ar gyfer trefi o ganlyniad i hynny, oni bai fod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y mae wastad wedi dweud y bydd yn ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod gennym ni setliad economaidd wrth adael y cyfnod pontio sy'n cefnogi'r economi. Mewn gwirionedd, nid yw ymagwedd bresennol y Llywodraeth at drafodaethau'n awgrymu y bydd hynny'n bosib, ond gobeithiwn y gall newid ei dull gweithredu er mwyn cefnogi'r union fath o drefi y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio atyn nhw yn ei chwestiwn.
Gweinidog, mae ardaloedd gwella busnes yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi mewn 16 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys yn Aberdâr yn fy etholaeth i, lle y sefydlwyd ardal gwella busnes yn gynnar eleni. Rwy'n dwyn i gof y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar 6 Mai y bydd yn cefnogi ardaloedd gwella busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis. Yn Aberdâr, rwy'n gwybod fod yr arian yma, er enghraifft, wedi helpu'r ardal gwella busnes i ddarparu sticeri llawr cadw pellter cymdeithasol a phosteri rhestr wirio diogelu rhag COVID yn rhad ac am ddim i bob busnes yng nghanol y dref. Yn y dyfodol, ym mha ffordd y gall ardaloedd gwella busnes, yn eich barn chi, helpu canol ein trefi i adfer, adeiladu'n well, a rhoi hwb i'r economïau lleol a sylfaenol yn sgil pandemig y coronafeirws?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ategaf ei chefnogaeth i'r mesur i liniaru rhai o'r costau y mae ardaloedd gwella busnes wedi'u hwynebu yn ystod y tri mis diwethaf. Mae gan ardaloedd gwella busnes ran bwysig o ran cynnal canol ein trefi, ac yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw o ran rhai o'r heriau sy'n dod yn sgil COVID yn benodol. Mae rhai busnesau'n gallu ymateb yn eithaf ystwyth i hynny, ond mae'n amlwg y bydd eraill yn wynebu heriau penodol o ganlyniad i'r cyfyngiadau a ddaeth yn sgil ein hymateb angenrheidiol i COVID. Fel y dywedais, byddwn yn annog ardaloedd gwella busnes ledled Cymru i fanteisio ar y canllawiau mannau cyhoeddus mwy diogel y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi er mwyn deall sut orau i gyflunio canol trefi er mwyn creu cymaint â phosib o gyfleoedd i'r busnesau hynny sy'n gallu manteisio ar y lliniaru cynyddol hwn.
Ac rwy'n credu hefyd y gwnaf ei chyfeirio at y cyhoeddiadau a wnaed heddiw, y mae rhai ohonynt yn effeithio ar gymunedau sydd rwy'n siŵr yn agos at ei chalon, o ran cymorth gan dasglu'r Cymoedd, ond hefyd yr ymyriadau y mae'r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn wedi'u gwneud o'r cyllid trawsnewid trefi, sy'n ailddiffinio ac yn rhoi diben newydd i'r arian hwnnw er mwyn galluogi gwneud addasiadau lleol mewn trefi yng Nghymru i ymdopi ag amgylchiadau ar ôl COVID.
Rwy'n cytuno, rwy'n cytuno. [Chwerthin.]