Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:31 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch am hynna eto. Yng ngwyneb mwyafrif sylweddol y Torïaid yn San Steffan, mae'n amlwg i bawb nad San Steffan fydd yn arwain y ffordd i ddiwygio undeb y Deyrnas Unedig er gwell. Colli pwerau yr ydym ni'n fan hyn, a chi, fel Llywodraeth Cymru, yn cael eich hanwybyddu dro ar ôl tro. Felly, beth yw eich cynllun chi? Parhau i gael eich hanwybyddu a Chymru yn parhau i golli grymoedd? Cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Os nad annibyniaeth i Gymru, felly beth?