Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:30 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Dwi ddim yn derbyn y term 'breuddwyd ffôl' a buasai fe ddim yn derbyn hynny, efallai, petaswn i'n disgrifio'i amcanion cyfansoddiadol e yn y ffordd honno. Felly, mae'n rhaid derbyn bod safbwyntiau gwahanol gyda ni ar y ffordd ymlaen. Dwi ddim yn derbyn mai dyma'r unig ffordd gallai'r undeb weithio. Yr holl bwynt yn y ddogfen y mae e'n ei disgrifio yw bod gennym ni ddadl amgen ar sut y gallai'r undeb weithio'n well ym muddiannau Cymru.
Rwy'n derbyn yn sicr nad yw'r strwythurau sydd gyda ni a'r berthynas sydd gyda ni yn y ffordd maen nhw wedi'u strwythuro ar hyn o bryd yn gweithio—dŷn nhw ddim. Mae'r broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi amlygu hynny'n gryfach fyth. Ond, y galw sydd gyda ni fel Llywodraeth yw i ddiwygio hynny mewn ffordd elfennol iawn, ac mae'r ddogfen honno'n dal i ddangos llwybr tuag at hynny. Ond, mae yn golygu bod angen Llywodraeth yn San Steffan sydd yn barod i ymwneud â'r broses honno, ac yn barod i ddelio â'r Llywodraethau eraill sydd mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny.