Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:51 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Cwnsler Cyffredinol, yn gynharach eleni, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru; dylai'r modd yr wyf yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â dosbarthu'r gronfa sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau lle mae ei angen fwyaf, ac nad yw—fel y byddai rhai yn dadlau sydd wedi digwydd yn y gorffennol—yn cael ei wario ar brosiectau gwagedd.
Rwy'n croesawu agwedd gydweithredol ac nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol eisiau gweld arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu. Mae enghreifftiau o wariant aneffeithiol o gyllid yr UE, wrth gwrs, yn cynnwys car cebl £2.3 miliwn Glynebwy, Parc Busnes £3.5 miliwn Bangor, a £77.3 miliwn ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd. Pa fesurau—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau ateb? Pa fesurau ydych chi'n eu hystyried mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gronfa ffyniant gyffredin yn gweld arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau cadarn fel na cheir problemau difrifol a gwario aneffeithiol, fel y gwelwyd mor aml yn y gorffennol?