Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:53 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:53, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Edrychwch, mae swyddogaeth ddifrifol y gallai'r Ceidwadwyr Cymreig ddewis ei harddel yn y drafodaeth hon petaent yn dymuno. Mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen dyfyniadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru a rhestru'r hyn y tybiant sy'n ddiffygion ar hyd y blynyddoedd, yr wyf yn eu herio'n llwyr. Ym mhob un o'n hetholaethau, bydd miloedd ar filoedd o unigolion a busnesau wedi elwa ar y cyllid a ddyrannwyd yn glodiw iawn sydd wedi dod i Gymru o ffynonellau Ewropeaidd dros y degawd diwethaf. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrthi yw fy mod yn credu bod naws ei chwestiwn yn anghydnaws â naws y trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd wedi bod yn adeiladol. Felly, rwy'n credu efallai nad yw hi wedi darllen y memo diweddaraf. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw fy mod yn derbyn yn llwyr, oherwydd mae wrth wraidd y cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu datblygu, bod lle i edrych yn wahanol ar ddosbarthiad daearyddol y cronfeydd hyn, o fod y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—dyna un o'r dulliau hyblyg y buom yn meddwl amdanynt—ac ystyried ffordd fwy ranbarthol o wneud penderfyniadau hefyd. Felly, mae rhaglen gyffrous iawn o newidiadau a diwygiadau y gallem eu cyflwyno o ran sut y caiff cyllid rhanbarthol ei wario yng Nghymru, os cawn yr ymrwymiad y mae gennym yr hawl iddo gan Lywodraeth y DU.