Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:26 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ategaf ei chefnogaeth i'r mesur i liniaru rhai o'r costau y mae ardaloedd gwella busnes wedi'u hwynebu yn ystod y tri mis diwethaf. Mae gan ardaloedd gwella busnes ran bwysig o ran cynnal canol ein trefi, ac yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw o ran rhai o'r heriau sy'n dod yn sgil COVID yn benodol. Mae rhai busnesau'n gallu ymateb yn eithaf ystwyth i hynny, ond mae'n amlwg y bydd eraill yn wynebu heriau penodol o ganlyniad i'r cyfyngiadau a ddaeth yn sgil ein hymateb angenrheidiol i COVID. Fel y dywedais, byddwn yn annog ardaloedd gwella busnes ledled Cymru i fanteisio ar y canllawiau mannau cyhoeddus mwy diogel y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi er mwyn deall sut orau i gyflunio canol trefi er mwyn creu cymaint â phosib o gyfleoedd i'r busnesau hynny sy'n gallu manteisio ar y lliniaru cynyddol hwn.
Ac rwy'n credu hefyd y gwnaf ei chyfeirio at y cyhoeddiadau a wnaed heddiw, y mae rhai ohonynt yn effeithio ar gymunedau sydd rwy'n siŵr yn agos at ei chalon, o ran cymorth gan dasglu'r Cymoedd, ond hefyd yr ymyriadau y mae'r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn wedi'u gwneud o'r cyllid trawsnewid trefi, sy'n ailddiffinio ac yn rhoi diben newydd i'r arian hwnnw er mwyn galluogi gwneud addasiadau lleol mewn trefi yng Nghymru i ymdopi ag amgylchiadau ar ôl COVID.