Adfer Trefi Cymru

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:25 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 12:25, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae ardaloedd gwella busnes yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi mewn 16 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys yn Aberdâr yn fy etholaeth i, lle y sefydlwyd ardal gwella busnes yn gynnar eleni. Rwy'n dwyn i gof y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar 6 Mai y bydd yn cefnogi ardaloedd gwella busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis. Yn Aberdâr, rwy'n gwybod fod yr arian yma, er enghraifft, wedi helpu'r ardal gwella busnes i ddarparu sticeri llawr cadw pellter cymdeithasol a phosteri rhestr wirio diogelu rhag COVID yn rhad ac am ddim i bob busnes yng nghanol y dref. Yn y dyfodol, ym mha ffordd y gall ardaloedd gwella busnes, yn eich barn chi, helpu canol ein trefi i adfer, adeiladu'n well, a rhoi hwb i'r economïau lleol a sylfaenol yn sgil pandemig y coronafeirws?