Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:32 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 12:32, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Do, gwelais y datganiad a gyhoeddwyd ddoe—y rhuthrwyd i'w ryddhau mae'n siŵr cyn ichi ymddangos gerbron y Senedd heddiw. Oherwydd y gwir amdani yw mai yn ysbeidiol iawn yr ydych chi wedi siarad yn rhinwedd y swyddogaeth bwysig hon, sydd, wrth gwrs, yn mynd i ddod yn bwysicach fyth wrth i amser fynd rhagddo. Felly, mae cyhoeddi datganiadau yma ac acw sydd mor bell oddi wrth ei gilydd fel eu bod, a dweud y gwir, fel comed—comed Halley, efallai—yn annerbyniol yn fy nhyb i.

Nawr, rydym ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon heddiw—ac rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio ato, hefyd—at y ffordd bwyllog y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ailagor Cymru. Ond, y gwir amdani yw y buoch chi'n fyrbwyll cyn belled ag y mae ein heconomi yn y cwestiwn. Ac mi fuoch chi'n fyrbwyll o ran yr effeithiau hirdymor posibl ar iechyd yn sgil eich cyfyngiadau symud mwy caeth ar ein heconomi hefyd. Nid oeddech yn ochelgar, ychwaith, o ran profi preswylwyr mewn cartrefi gofal neu'r staff mewn cartrefi gofal, ac nid ydych chi wedi bod yn ofalus o ran defnyddio gorchuddion wyneb gorfodol, ychwaith. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yw effaith economaidd y cyfyngiadau symud mwy caeth yma yng Nghymru, a pham mae Llywodraeth Cymru yn parhau i lusgo'i thraed pan allem ni fod yn ailagor mwy pe byddai agwedd fwy gochelgar ynglŷn â phethau fel mygydau wyneb?