Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:34 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, rwy'n deall y naratif y mae meinciau'r Ceidwadwyr, yn amlwg, yn ceisio'i ddatblygu heddiw ynghylch yr agwedd hon, ond byddwn yn ailadrodd y sylw a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau yn gynharach, sef nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn un sy'n creu anghysondeb rhwng iechyd y genedl â lles yr economi. Holl Strategaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn, wedi'i gynghori gan ein cynghorwyr meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol, yw cymryd yr agwedd bwyllog honno, a chredaf fod hynny'n cael ei gadarnhau gan y canlyniadau o ran atal y feirws yng Nghymru.
Rwy'n credu, os yw rhywun yn siarad â'r rhan fwyaf o fusnesau, yn sicr, mae cydnabyddiaeth bod y dull tryloyw hwnnw, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi ein harwain at y lle yr ydym ni heddiw oherwydd parodrwydd pobl Cymru i ymateb i hynny fel y gwnaethant, a chredaf fod pawb yn deall y byddai'r difrod o ail gyfres o gyfyngiadau symud o'r math y buom drwyddynt yn sylweddol iawn ar economi Cymru. Ac rwy'n credu, felly, ei bod hi'n ymddangos i mi fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r dull o geisio osgoi hynny, os gallwn ni o gwbl.