Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:54 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n credu, i raddau helaeth, eich bod wedi ymdrin â rhywfaint o hyn yn eich ateb i Mandy Jones ar y dechrau, ond mae agwedd Llywodraeth y DU yn sicr yn peri pryder ac mae'n siŵr fod hynny'n bryder mawr i lawer o sectorau economaidd yng Nghymru. Yn wir, wrth ichi graffu gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe, atgyfnerthwyd ofnau llawer yn y Siambr hon; rwy'n credu mai Alun Davies, mewn gwirionedd, a ddywedodd eich bod yn ymwneud â Llywodraeth y DU sydd mewn anhrefn. Fy mhryder, felly, yw pan fyddwn hefyd yn ystyried y gwaith yr ydych yn ei wneud ynghylch cynllun adfer economaidd i Gymru, a yw'r gwendid hwn yn ymgysylltiad pedair gwlad Llywodraeth y DU yn ein rhwystro'n sylweddol rhag diwallu ein hanghenion yn y dyfodol, ar yr hyn sydd, i bob diben, yn adeg allweddol iawn i economi Cymru wrth inni symud tuag at ddiwedd y cyfnod pontio hwn.