Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:28 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae Dai Lloyd yn cyfeirio at y Papur Gwyrdd arfaethedig wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglŷn â'r farchnad fewnol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mewn egwyddor, rŷn ni'n gweld gwerth i'r syniad o farchnad fewnol i hybu busnesau yng Nghymru i allu llwyddo i werthu eu nwyddau ar draws y Deyrnas Gyfunol gyfan oll. Ond dyw e ddim yn dderbyniol i ni fel Llywodraeth fod y cynnig sy'n dod o'n blaenau ni yn un sy'n cael ei greu gan un rhan o'r Deyrnas Gyfunol a bod hynny'n cael ei orfodi ar y Llywodraethau eraill.
Hynny yw, mae ffordd well o wneud hyn, a'r ffordd well a'r ffordd amgen o wneud hyn yw ar sail yr egwyddorion roeddem ni'n sôn amdanyn nhw y gynnau fach—hynny yw, bod y Llywodraethau yn cael trafod yn hafal ar beth i'w wneud yn y sefyllfa yma ac yn adeiladau ar y fframweithiau cyffredinol sydd wedi cael eu trafod a'u datblygu hyd yn hyn. Mae hynny'n ffordd amgen o ddelio gyda'r sefyllfa hon a hefyd yn tynnu allan o'r sefyllfa y bygythiad i'r setliad datganoli sydd ynghlwm wrth yr egwyddor bod yn rhaid i ni dderbyn nwyddau yn y farchnad yng Nghymru, hyd yn oed os na fyddan nhw yn cysoni gyda'r safonau mae Llywodraeth Cymru, ar ran pobl Cymru, wedi eu gosod.
Rwy'n gobeithio, os bydd gorfod hynny, y byddwn ni'n cael cefnogaeth wrth y Senedd yn ein gwrthwynebiad i hynny, os daw deddfwriaeth gynradd i fwcl maes o law wrth y Llywodraeth yn San Steffan.