Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:29 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 12:29, 15 Gorffennaf 2020

Diolch am yr ateb yna. Nawr, ers cyhoeddiad papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb, Cydlywodraethu yn y DU', nôl yn yr hydref y llynedd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod galwadau gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth yr Alban a gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i ymestyn cyfnod pontio Brexit. Hefyd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau gyda'i chytundeb ymadael, er i Senedd Cymru a Senedd yr Alban wrthod cydsyniad deddfwriaethol. Ydy'ch amcanion chi, felly, fel Llywodraeth Cymru, a luniwyd yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb', yn fwy neu yn llai tebygol o gael eu gweithredu nawr, ynteu freuddwyd ffôl ydy cydraddoldeb llywodraethu yn y Deyrnas Unedig?