Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:38 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae'n bwysig ein bod yn canfod rhai pethau cadarnhaol ymhlith dioddefaint ac anhawster cyffredinol COVID-19, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydych yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol, i adeiladu'n ôl yn well.
Un agwedd ar y misoedd diwethaf y mae pobl wedi'i gwerthfawrogi yw'r gostyngiad ym maint y traffig sydd ar ein ffyrdd, ond mae ofnau, wrth gwrs, oherwydd y pryderon ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau, y gall fod cynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffyrdd. Yma yng Nghasnewydd, wrth gwrs, mae traffig ar yr M4 o amgylch twneli Bryn-glas yn fater allweddol i ni. Felly, wrth edrych ymlaen, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ystyried adeiladu'n ôl yn well o ran gwella trafnidiaeth gyhoeddus i ymdrin â'r problemau o gael pobl allan o'u ceir, ar gyfer y teithiau hynny ar hyd llwybr yr M4, ac, yn benodol, i edrych ar wasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste, gyda mwy o arosfannau rhwng y gorsafoedd a gorsafoedd trenau newydd?