Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:39 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, ac rwyf i dim ond eisiau cadarnhau mai ein hymagwedd ni, yn bendant, yw rhoi wrth galon ein hymateb ac wrth galon ein hailadeiladu yr ymrwymiad parhaus hwnnw i newid yn yr hinsawdd, i amgylchedd gwell. Rydym ni i gyd wedi gweld, rwy'n credu, onid ydym ni, oherwydd y newid ymddygiad angenrheidiol y mae pobl yng Nghymru wedi bod yn barod i'w gyflawni, os mynnwch chi, y gwelliant mewn aer glân yn sgil llai o draffig a llai o deithio ac ati. Rydym ni eisiau gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad ydym ni'n colli'r budd hwnnw.
Bydd yr Aelod, o bosib, wedi gweld y buddsoddiad a gyhoeddodd Lee Waters yn ddiweddar mewn cyllid teithio llesol i awdurdodau lleol er mwyn cyflwyno cynlluniau i annog teithio llesol yn ein trefi a'u cyffiniau, a hefyd y gwaith y mae Ken Skates a Lee Waters wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad, yn benodol, â'r pwynt a wna, sef sut y gallwn ni ddod allan o'r argyfwng hwn, y pandemig hwn, mewn ffordd sy'n cefnogi ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus i ddarparu gwell gwasanaeth yn y dyfodol nag y maen nhw wedi gallu ei gyflawni yn y gorffennol, fel y gallwn ni barhau i wella'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus dros amser.
Credaf fod y cynllun brys bysiau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, gyda'r gobaith y mae hynny yn ei gynnig o ddefnyddio ein cyllid fel Llywodraeth mewn modd sy'n cynnig ffordd well o gyflawni'r canlyniadau hynny nag yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y gorffennol, yn arwydd cadarnhaol iawn o'r mathau o wersi yr ydym ni yn eu dysgu, wrth adfer o COVID, a'n dyhead fel Llywodraeth i beidio â dim ond troi'r cloc yn ôl at yr amgylchiadau a fodolai pan ddaeth y pandemig ar ein gwarthaf.