Y Cyfryngau

Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:18, 15 Gorffennaf 2020

Rydym ni'n iawn nawr. Reit. Diolch yn fawr i Alun Davies am y cwestiwn. Mae'r sector cyfryngau yn allweddol i ddemocratiaeth mewn unrhyw gymdeithas ac y mae polisi cyfryngau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogi amrywiaeth o fewn y cyfryngau er mwyn sicrhau gwybodaeth gyson i ddinasyddion, ac felly rydym ni'n gresynu am yr holl golli swyddi sydd yn bosib yn y cyfryngau yng Nghymru mewn gwahanol agweddau yn ystod y misoedd nesaf.