Y Cyfryngau

Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:22, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf nifer o fuddion i'w datgan yma. Rwy'n newyddiadurwr, rwy'n aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, rwyf hefyd yn aelod o'n Senedd genedlaethol sy'n gwerthfawrogi—fel pob un ohonom yma—bwysigrwydd craffu effeithiol ar ein sefydliadau democrataidd, ac rwy'n ddefnyddiwr cyfryngau Cymreig, sy'n gwybod pa mor hanfodol yw hi fod stori Cymru yn cael ei gweld a'i darllen a'i chlywed a'i thrafod gan bobl Cymru. Fe ddylem i gyd fod yn poeni am y syniad bod pileri allweddol newyddiaduraeth yng Nghymru wedi'u huno'n olygyddol â sefydliadau newyddion eraill nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru ac nad ydynt yn canolbwyntio mewn unrhyw ffordd ar Gymru. Rwy'n poeni, wrth gwrs, am yr holl newyddiadurwyr y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, ond rwy'n hynod bryderus am yr hyn y mae'n ei olygu i'n cenedl ni. A wnaiff y Gweinidog bopeth o fewn ei allu i ymyrryd, i bwyso ar Reach i ailfeddwl, i bwyso am bwyslais ganddyn nhw, nid ar dorri a rhedeg efallai, ond ar geisio creu menter newyddion gynaliadwy a gwirioneddol ledled Cymru o fewn eu sefydliad ehangach? Ond hefyd, gyda'r farchnad-os gallwn ei alw'n hynny—sy'n amlwg yn methu yma, a wnaiff addo rhoi fframweithiau a mecanweithiau cefnogi ar waith a all helpu i gynnal lluosogrwydd o ran newyddiaduraeth annibynnol yng Nghymru?