Y Cyfryngau

Part of 6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:24, 15 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr am y cwestiwn yna, Rhun. Mae annibyniaeth newyddiaduraeth, yn gyntaf, yn hollbwysig, ac felly mae gen i wastad wedi bod amheuon am gyfraniad gwladwriaethol neu lywodraethol yn uniongyrchol i'r cyfryngau, oherwydd dwi ddim yn credu bod hynny'n briodol. Dwi wedi cael achos i fod yn gresynu sawl gwaith yn y gorffennol ynglŷn ag amharodrwydd cyfryngau i fod yn annibynnol oddi wrth eu cyllidwyr, ac mae bod yn annibynnol o lywodraeth yr un mor bwysig—yn bwysicach i fi—na bod yn annibynnol oddi wrth Rupert Murdoch, fel yr oedd hi yn y gorffennol. Ac felly, dwi yn ymrwymo i chwilio am ffyrdd amrywiol, ond mae'n rhaid inni geisio gweithredu yn gynt yn y mater yma, a dyna pam dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y swyddogion o undeb y newyddiadurwyr, a dwi hefyd yn ymrwymo i ofyn am gyfarfod gyda phenaethiaid Reach a dwi am sicrhau bod gyda ni o leiaf ddau bapur dyddiol yng Nghymru, yn y de ac yn y gogledd, y Western Mail a'r Daily Post, sydd o leiaf yn bapurau cenedlaethol Cymreig.