Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Awst 2020.
Lywydd, mae llawer o ddiddordeb wedi bod yng nghyflymder canlyniadau profion yn y system Profi, Olrhain, Diogelu. Yn y profion cymunedol yn Wrecsam, profwyd dros 95 y cant o samplau o fewn 24 awr i'w derbyn, ac mae hynny’n dangos, pan fydd angen canlyniadau cyflym o'r fath, y gall y system eu darparu. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd y nifer uchaf erioed o brofion yng Nghymru o fewn 24 awr.
Nawr, wrth gwrs, mae cynnydd lleol mewn achosion yn cyfrannu at yr asesiad cyffredinol o'r sefyllfa yng Nghymru. Serch hynny, yn y cyfnod cyn yr adolygiad yr wythnos diwethaf, amcangyfrifwyd fod y rhif R yng Nghymru rhwng 0.6 a 0.9. Yn y model a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, cyfrifwyd bod y rhif R ar gyfer Cymru yn is nag ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Lloegr, ond po leiaf yw cylchrediad y feirws, y mwyaf ansefydlog y daw’r rhif R, a dyna pam rydym yn dibynnu ar nifer ehangach o ddangosyddion, gan gynnwys canlyniadau profion. Yn hynny o beth, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd 41,451 o brofion yng Nghymru, ac roedd 0.8 y cant ohonynt yn achosion positif. Mae degau o filoedd o brofion wedi'u cynnal ar staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, ac yn yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfradd y canlyniadau positif ar gyfer staff a phreswylwyr yno yn 0.3 y cant.
Y casgliad y daeth y prif swyddog meddygol iddo yn sgil yr holl ddata hwn, fel y nodwyd yn ei asesiad a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n newidiadau yr wythnos diwethaf, yw bod y feirws wedi'i reoli mor effeithiol yng Nghymru fel bod cyfiawnhad dros lacio pellach ar sail iechyd y cyhoedd. O ganlyniad, o ddydd Llun yr wythnos hon ymlaen, mae lletygarwch dan do wedi ailgychwyn mewn tafarndai, caffis, bwytai a gwestai yng Nghymru. Ddydd Llun nesaf, bydd campfeydd dan do, sbas, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn ailagor.
Lywydd, penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf y byddem yn neilltuo llawer o'r lle i weithredu sydd ar gael inni i ddarparu hyblygrwydd newydd ar gyfer cyfarfodydd rhwng teulu a ffrindiau, ond mae ein trafodaethau wedi cydnabod mai dyma'r elfen fwyaf peryglus o ran unrhyw fesurau i lacio’r cyfyngiadau symud. Felly, rydym wedi penderfynu gohirio unrhyw benderfyniad ar hyn tan yn ddiweddarach yn y cylch. Ein nod o hyd yw adfer peth o'r rhyddid y bu'n rhaid i bobl ei ildio yn ystod y rhan hon o'u bywydau, ond ni fyddwn ond yn gwneud hynny os ceir achos iechyd y cyhoedd cryf dros gyfiawnhau cyfarfodydd pellach dan do rhwng teulu a ffrindiau. Yn y cyfamser, ni fydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol bellach yn berthnasol i blant o dan 11 oed, ac mae hyblygrwydd newydd wedi'i ddarparu ar gyfer cyfarfod â theulu a ffrindiau yn yr awyr agored.
Lywydd, yn y cyhoeddiad ddydd Gwener, nodais gynlluniau hefyd i gryfhau'r modd y caiff rheolau coronafeirws eu gorfodi yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o unigolion a busnesau yn gweithio'n galed i gadw pawb yn ddiogel, nid yw hynny'n wir am bawb. Mae unigolion sy'n ymddwyn fel pe bai'r argyfwng wedi dod i ben yn creu risg o niwed i eraill. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Mae’n tanseilio'r ymdrechion y mae pawb arall yn eu gwneud. Heddiw, rwyf wedi cyfarfod ar wahân gyda’r heddlu a chydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiolch iddynt am eu gwaith hanfodol ac i ailddatgan yr ymrwymiad a rennir gennym i gefnogi’r rheini sy’n gwneud y pethau iawn i ddiogelu pob un ohonom.
O ran busnesau, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae ein rheoliadau’n gosod cyfrifoldeb uniongyrchol ar yr unigolyn sy'n gyfrifol am safle i roi pob cam rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal y coronafeirws. Cytunwyd ar ganllawiau gyda'r gwahanol sectorau i egluro beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, ac mae llawer o fusnesau wedi buddsoddi amser, egni ac arian i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu mewn modd diogel mewn perthynas â’r coronafeirws. Er mwyn eu cefnogi, byddwn yn darparu pwerau newydd i awdurdodau lleol ymyrryd yn gyflym ac yn bendant lle nad yw hynny’n digwydd, a bydd hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gau os oes angen. Cyflwynir y rheoliadau ddydd Gwener yr wythnos hon, 7 Awst, a byddant yn dod i rym ddydd Llun 10 Awst.
Yn olaf, Lywydd, gan edrych ymlaen tuag at ddiwedd y cylch sydd eisoes wedi dechrau, mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, wedi rhybuddio yno y gallai’r cyfyngiadau symud eisoes fod wedi'u llacio i’r graddau mwyaf posibl. Yma yng Nghymru, rydym wedi mabwysiadu dull gwahanol, dull cam wrth gam, ond ar ddiwedd y cylch hwn ar 21 Awst, byddwn o fewn pythefnos i ailagor ysgolion ym mis Medi. Bydd angen inni flaenoriaethu unrhyw le i weithredu ar y pwynt hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni'r foment hanfodol bwysig hon i'n plant a'n pobl ifanc yn ddiogel ac yn llwyddiannus, ac efallai na fydd llawer o le i fynd y tu hwnt i hynny yn yr adolygiad nesaf. Bydd hynny oll, Lywydd, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad, yn ddiweddarach ym mis Awst, a byddaf yn adrodd eto i'r Aelodau ar hynny i gyd ymhen tair wythnos. Diolch yn fawr.