Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Medi 2020.
Llywydd, rhoddwyd ymdrech enfawr ar waith ledled Cymru i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig. Yn ogystal â'n gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector, mae gwirfoddolwyr, ffrindiau a chymdogion dirifedi wedi rhoi cymorth i'r rhai â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun diogelu'r gaeaf, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi ffyrdd y gellir parhau â'r ymdrech gyfunol enfawr hon.