1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Medi 2020.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19? OQ55524
Llywydd, rhoddwyd ymdrech enfawr ar waith ledled Cymru i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig. Yn ogystal â'n gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector, mae gwirfoddolwyr, ffrindiau a chymdogion dirifedi wedi rhoi cymorth i'r rhai â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun diogelu'r gaeaf, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi ffyrdd y gellir parhau â'r ymdrech gyfunol enfawr hon.
Prif Weinidog, mae COVID-19 wedi dangos yn eglur yr annhegwch na ellir ei amddiffyn yn ein cymdeithas. Mae'r rhai sydd ar incwm is, mewn swyddi ansicr, yn byw mewn tai o ansawdd gwael ac yn dioddef anghydraddoldebau iechyd yn arbennig o agored i'r feirws, o ran eu hiechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae ein cymunedau mwy difreintiedig, lleiafrifoedd du ac ethnig, a phobl anabl yn cael eu heffeithio yn anghymesur. Yng Nghasnewydd, mae gennym ni brofiad o hyn, a nawr mae gennym ni gynnydd i nifer yr achosion COVID-19 sy'n peri pryder. Prif Weinidog, a wnewch chi nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion diweddar hyn, ac ymuno â mi i annog pobl a busnesau lleol i gynydddu eu hymdrechion i ddilyn rheoliadau a chyngor i gadw rheolaeth ar y feirws ac osgoi cyfyngiadau symud pellach?
Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y pwyntiau pwysig iawn yna? Mae'n tynnu sylw, a hynny'n gwbl briodol, at y cynnydd diweddar i nifer y bobl sy'n dioddef oherwydd coronafeirws yn ardal Casnewydd. Mae cryn ymdrech yn cael ei rhoi ar waith drwy'r tîm rheoli achosion lleol, yn gweithio yn agos iawn gyda'r awdurdod lleol—roeddwn i'n siarad ag arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, ddoe—ac mae ein tîm profi, olrhain, diogelu wedi bod yn gwbl ymroddedig wrth wneud gwaith dilynol ar yr holl achosion hynny sydd wedi dod i'n sylw, ac yna, yn eu tro, cysylltu â'r bobl y maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw. O ganlyniad, mae'r ymdrechion hynny yn helpu i sefydlogi'r sefyllfa yng Nghasnewydd. Ac rydym ni'n gobeithio, wrth gwrs, na fydd angen cymryd camau pellach, ond os bydd angen, os na fydd y ffigurau hynny yn gwella a bod yn rhaid i gamau lleol gael eu hategu gan gamau cenedlaethol, yna dyna yn union fydd yn digwydd. Ac fel y dywedodd John Griffiths, Llywydd, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach i'r grwpiau agored i niwed hynny mewn dinas fel Casnewydd—cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, ac yn y blaen—y byddai'r risgiau iddyn nhw yn arbennig o ddifrifol pe byddai'r feirws yn mynd allan o reolaeth.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwrandewais ar eich ymateb i John Griffiths yn ofalus iawn, gan fy mod i'n cytuno bod llawer o niwed i'w wneud os bydd y feirws hwn yn mynd y tu hwnt i reolaeth. Ceir niwed sylweddol a fydd yn digwydd hefyd i bobl y gellid gofyn iddyn nhw warchod eto, i bobl sydd ag anableddau o'r fath, i bobl sydd ag anableddau dysgu efallai, nad ydyn nhw'n deall yn iawn beth sy'n digwydd. Felly, er enghraifft, mae grŵp eiriolaeth anabledd wedi cysylltu â mi, lle y dywedwyd wrth merch un fam, sydd mewn lleoliad preswyl a gefnogir gan y gwasanaethau cymdeithasol, ei bod yn debygol na fydd yn cael mynd adref tan fis Mehefin y flwyddyn nesaf—y flwyddyn nesaf. Rydym ni'n gofyn i rai pobl wneud aberth cwbl eithriadol. Os bydd yn rhaid i ni ddychwelyd i gyfyngiadau symud, bydd yn rhaid i'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gwarchod ddychwelyd i wneud hynny. Prif Weinidog, pa sicrwydd allech chi ei roi i ni, neu beth all y Llywodraeth ei wneud, i wneud yn siŵr, y tro hwn, os byddwn ni'n wynebu'r sefyllfa honno, bod ffyrdd y gallwn fod yn fwy tosturiol ac yn fwy caredig ynglŷn â rhai o'r pethau yr ydym ni'n gofyn i rai o'r bobl agored iawn i niwed yn ein cymdeithas ymdopi â nhw, yn enwedig y rhai sydd efallai'n cael mwy o anhawster i ddeall yr angenrheidrwydd?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau yna. Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedodd—bod effaith ymateb i coronafeirws yn arbennig o anodd i'r bobl hynny sydd â'r lleiaf o allu i ddeall yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas ac yna ymateb iddo, boed hynny'n bobl oedrannus iawn sydd wedi dioddef o ddementia, boed nhw'n bobl ag anableddau dysgu, ac yn y blaen. Ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dysgu o brofiad y chwe mis diwethaf. Mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi cadeirio pum cyfarfod o'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl dros y cyfnod hwnnw. Mae'r prif swyddog meddygol a'm cyd-Weinidog Julie James wedi bod yn bresennol ynddynt hefyd. A diben hynny i gyd yw ceisio dysgu o brofiad byw pobl sydd, fel yn achos cyswllt Angela Burns, wedi gorfod byw gyda'r baich syfrdanol y mae coronafeirws wedi ei osod ar rai aelodau o'n cymdeithas. Felly, rwy'n credu mai'r sicrwydd gorau y gallwn ni ei roi i'r bobl hynny yw gwrando'n ofalus arnyn nhw, a chlywed ganddyn nhw am y modd, pe byddem ni'n wynebu cyfnod pellach o'r math i ni ei wynebu yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill, yr ydym ni wedi dysgu o'r ffyrdd y maen nhw wedi ymdopi â'r profiad hwn. A phan allwn ni wneud mwy i'w cynorthwyo ac y gallwn ddylunio ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sy'n gallu ymateb yn well i'w hanghenion, yna dyna'n union y byddwn ni'n ceisio ei wneud.