Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Medi 2020.
Llywydd, mae asesiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos cynnydd mawr iawn i'r diffyg ariannol ar gyfer y DU gyfan yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllideb Cymru rhag effaith y sioc economaidd ar draws y DU ar refeniw datganoledig sy'n deillio o'r pandemig.