Profi, Olrhain a Diogelu

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae perfformiad ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu yn glod i'n byrddau iechyd ac i'n hawdurdodau lleol ac mae wedi cael cefnogaeth gref gan bobl o bob cwr o Gymru. Ers 21 Mehefin, cysylltwyd yn llwyddiannus â 98 y cant o achosion positif a 94 y cant o'u cysylltiadau agos, a rhoddwyd cyngor iddyn nhw.