1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Medi 2020.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth profi, olrhain a diogelu ar gyfer coronafeirws? OQ55520
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae perfformiad ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu yn glod i'n byrddau iechyd ac i'n hawdurdodau lleol ac mae wedi cael cefnogaeth gref gan bobl o bob cwr o Gymru. Ers 21 Mehefin, cysylltwyd yn llwyddiannus â 98 y cant o achosion positif a 94 y cant o'u cysylltiadau agos, a rhoddwyd cyngor iddyn nhw.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Cafwyd rhai enghreifftiau o bobl yn aros am ganlyniadau, wrth gwrs, pan eu bod nhw wedi gofyn am brofion. Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i wneud yn siŵr, fel y mae wedi ei wneud gyda phrofi, olrhain a diogelu, ei bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod canlyniadau ar gael mewn da bryd i'r rhai sydd angen y canlyniadau?
Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, am bwysigrwydd ymatebion prydlon i brofion a gynhaliwyd. Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, Llywydd, mae'r anawsterau sy'n cael eu dioddef yng Nghymru ar hyn o bryd yn ganlyniad i'r anawsterau a nodwyd yn glir yn y system labordy goleudy, system a oedd yn gweithio yn llwyddiannus iawn dair wythnos yn unig yn ôl ac rydym ni'n awyddus iawn i'w gweld yn llwyddiannus unwaith eto cyn gynted ag y bydd hynny'n bosibl. Mae Gweinidog y DU sy'n gyfrifol yn dweud wrthym ni y bydd y system honno yn ôl ar y trywydd iawn o fewn tair wythnos ac yn darparu canlyniadau prydlon i bobl yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y cyfamser, mae ein labordai ein hunain yn parhau, rwy'n credu, i ddarparu canlyniadau prydlon: dychwelir 91 y cant, er enghraifft, o brofion ysbyty a gynhelir yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru o fewn 24 awr. A'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'n capasiti ein hunain yw defnyddio'r canlyniadau cyflymaf pan fo angen y canlyniadau hynny yn y modd hwnnw. Felly, rwy'n credu fy mod i wedi dweud eisoes, Llywydd—ymddiheuriadau os gwnes i—bod tua 99 y cant o'r profion a gynhelir yn y gymuned yng Nghaerffili yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Rydym ni angen i'r labordai goleudy fod yn ôl yn gweithredu fel yr oedden nhw dim ond ychydig wythnosau yn ôl er mwyn darparu'r un gwasanaeth i'r rhannau hynny o'r system yng Nghymru sy'n dibynnu ar y labordai hynny yn ogystal â'n rhai ein hunain.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod unrhyw system brofi ac olrhain angen ffydd wrth rannu gwybodaeth. Gofynnwyd i chi ddwywaith y prynhawn yma am y mynediad diawdurdod at ddata a ddigwyddodd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru—mynediad diawdurdod sylweddol at ddata. O ran yr un cwestiwn a ofynnwyd i chi, gofynnwyd i chi, 'Pryd cafodd y Llywodraeth ei hysbysu am y ffaith bod y data hyn wedi cael eu cyhoeddi?' Fe wnaethoch chi fethu ag ateb y cwestiwn hwnnw, felly a allech chi ymateb i fy nghwestiwn i, os gwelwch yn dda, trwy roi ateb: pryd hysbyswyd Llywodraeth Cymru—nid chi, Llywodraeth Cymru—am y mynediad diawdurdod hwn at ddata a phwy yn Llywodraeth Cymru oedd y pwynt cyswllt cyntaf yn rhengoedd y Gweinidogion i gael gwybod am y ffaith bod 18,000 o enwau wedi eu cyhoeddi?
Wel, Llywydd, rhoddais ateb a oedd o fewn fy ngwybodaeth. Rwy'n gwybod pryd y cefais i fy hysbysu. Nid wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiynau eraill hynny, ac ni fyddwn ychwaith yn disgwyl eu gwybod yn sefyll yma yn y Siambr. Byddwn yn darganfod yr atebion hynny, wrth gwrs, ac rwy'n hapus iawn i'w mynegi i'r Aelod.
Mae'n amlwg i mi fod yna rywbeth catastroffig wedi mynd o'i le efo'r system brofi yn y pythefnos diwethaf; nid dim ond arafwch canlyniadau yn dod yn ôl ydy hyn. Mae etholwyr i fi ac mewn rhannau eraill o Gymru yn methu cael prawf cartref o gwbl, yn cael trafferth ffonio 119, yn methu cael slot yn eu canolfan drive-through leol—sy'n llawer rhy bell beth bynnag i lawer o bobl. Dwi'n cytuno'n llwyr efo gwyddonwyr independent SAGE sydd wedi dweud ers misoedd fod yna beryg go iawn yn Llywodraeth Cymru yn penderfynu rhoi ei ffydd mewn system oedd yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mai beth oedd ei angen oedd datblygu cyfundrefn Gymreig ar gyfer profi. Ydych chi'n gweld rŵan mai camgymeriad oedd rhoi ffydd yn y system Brydeinig, a beth sydd angen ar frys rŵan ydy cynyddu'r capasiti yma yng Nghymru, capasiti y mae gennych chi fel Llywodraeth reolaeth drosto fo?
Dwi'n cytuno gyda'r Aelod. Mae'r problemau yn y lighthouse labs yn ddifrifol, ac mae'n bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddelio gyda'r problemau yna mor gyflym â phosib. Dwi ddim yn cytuno o gwbl ag ef pan ddywedodd, fel rhan o’r annibyniaeth mae Plaid Cymru bob tro yn trial ei awgrymu, mai'r ffordd orau oedd bod yn hollol annibynnol yn y maes yma a pheidio â defnyddio'r capasiti oedd yna i'w ddefnyddio ledled y Deyrnas Unedig. Dydy Llywodraeth yr Alban ddim wedi gwneud hynny o gwbl, a doedd hi ddim yn gwneud synnwyr i ni ei wneud chwaith. Ac â dweud y gwir, yma ar lawr y Senedd, dwi'n cofio pobl yn dweud wrthyf i, 'Pam ydych chi ddim yn defnyddio'r capasiti sydd i'w gael mewn systemau eraill?' So, rŷn ni wedi defnyddio'r capasiti yna, a than dair wythnos yn ôl, roedd y system yna'n gweithio yn dda. Y sialens nawr yw gwneud y gwaith ar lefel y Deyrnas Unedig i roi'r lighthouse labs yn ôl yn y lle roedden nhw ym mis Awst, a dyna beth rydyn ni eisiau ei gefnogi.