Cymru fwy Cyfartal

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:45, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, John Griffiths, am dynnu sylw at ran ysmygu mewn anghydraddoldebau iechyd. Hoffwn ddweud bod sicrhau bod yr annhegwch iechyd a achosir gan ysmygu yn cael ei leihau—bod hynny'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth Cymru hon. Rydych chi wedi cyfeirio at feysydd lle gallem ni ehangu'r gwaharddiad ar ysmygu. Yn amlwg, ein bwriad uniongyrchol yw cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu, fel y mae pob Aelod yn ei wybod, mewn meysydd chwarae cyhoeddus, tir ysgolion ac ar dir ysbytai. Ond, rydym ni wedi ymrwymo i'n nod hirdymor o wneud mwy o fannau cyhoeddus Cymru yn ddi-fwg a helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u llesiant, ac rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â gwaith yn nhymor nesaf y Senedd i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i fannau awyr agored caffis a bwytai a chanol dinasoedd a threfi.