Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:40, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, tan yn ddiweddar, byddwn i'n dweud bod caethwasiaeth yn drosedd gudd. Nid yw'n cael ei adrodd yn ddigonol o hyd a chodwyd y cwestiynau a'r pryderon hyn y prynhawn yma. A dyna pam y cyflwynwyd systemau casglu data newydd gennym ni yng Nghymru ac rydym ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r sail dystiolaeth well honno—cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at hynny hefyd—sy'n adlewyrchu yn fwy cywir lefel caethwasiaeth yng Nghymru fel y gallwn ni fynd i'r afael ag ef.